Ganwyd 9 Ebrill 1869 yn Aberystwyth, mab hynaf John Edwards, dilledydd. Cafodd ei addysg yn yr ysgol ramadeg leol ac yng ngholeg Aberystwyth. Bu'n aelod o gyngor sir Aberteifi am gyfnod. Yn 1910 etholwyd ef yn A.S. (Rhyddfrydol) dros etholaeth canolbarth Morgannwg; cadwodd y sedd honno hyd 1922. O 1923 hyd 1929 bu'n aelod dros Accrington, eto fel Rhyddfrydwr.
O 1911 hyd 1914 bu Edwards yn golygu ac yn cyhoeddi Wales: A National Magazine. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion, yn enwedig i'r British Weekly; yn niwedd ei oes ysgrifennai bron bob wythnos i'r Empire News. Ysgrifennodd (a) From Village Green to Downing Street. Life of D. Lloyd George … (London, 1908) - gyda Spencer Leigh Hughes, (b) Life of David Lloyd George; with a short history of the Welsh People, 4 cyfrol (London, 1913-19), (c) David Lloyd George, the man and the statesman, 2 cyfrol (New York, 1929, ac arg. arall yn Llundain, 1930).
Priododd 20 Ebrill 1933, Doris, merch Syr Samuel Faire, Glenfield, Frith Park, Leicester. Ym mlynyddoedd olaf ei oes yr oedd yn byw yn Hindhead, Surrey, gan roddi llawer o'i amser yno i gymdeithasau megis Cyngor yr Eglwysi Rhyddion a Chymdeithas Trethdalwyr a golygu gwaith mawr newydd (nas cyhoeddwyd) ar hanes Cymru. Bu farw 14 Mehefin 1945 yn Hindhead.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.