Ganwyd Abertawe, 7 Mawrth 1890, mab hynaf William Edwards, Y.H. Derbyniodd ei addysg yn ysgol Mill Hill, Coleg S. Ioan, Caergrawnt, ac ysbyty Middlesex, Llundain, lle y cyflwynwyd iddo ysgoloriaeth hynaf Broderip ac ysgoloriaeth y Brifysgol. Graddiodd yn feddyg 1913; graddau uwch, M.Ch. a F.R.C.S. 1915. Gwasanaethodd yn y R.A.M.C. yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chodi'n uch-gapten. Penodwyd ef yn llawfeddyg cynorthwyol i ysbyty Westminster, yn llawfeddyg i ysbyty Brompton ar gyfer afiechydon y frest, llawfeddyg i ysbyty'r Frenhines Mary yn Roehampton ac yn llawfeddyg y frest i gyngor sir Llundain. Er mai llawfeddyg y cylla a'r perfedd oedd ar y cychwyn, daeth yn arloeswr llawfeddygaeth y frest. Nid oedd y maes hwnnw wedi ei sefydlu mewn gwirionedd nes iddo ef lwyddo mewn achosion o gancr ac o ddarfodedigaeth yn yr ysgyfaint. Ef oedd y cyntaf ym Mhrydain i symud ymaith lôb o'r ysgyfaint a'r cyntaf i symud ymaith ochr gyfan o ysgyfaint; ac yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i roi triniaeth lawfeddygol i gancr ar bibell lyncu. Ymddiswyddodd o ysbyty Westminster 1930 i sefydlu adran llawfeddygaeth y frest yn ysbyty Llundain. Yn fedrus iawn fel llawfeddyg, yn ddawnus fel athro, yr oedd iddo enwogrwydd cydwladol. Yn ystod yr ail ryfel byd yr oedd yn gynghorwr sifil i'r swyddfa Ryfel ac i'r Llu Awyr. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ac yr oedd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn Thorax. Traddododd ddarlith goffa Harvey 1939, ar gasgliad yn yr ysgyfaint (bronchiectasis). Efe oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Astudio Afiechydon y Frest. Yr oedd hefyd yn llywydd Cymdeithas y Frest, ac yn gymrawd anrhydeddus Cymdeithas Americanaidd Llawfeddygon y Frest. Cafodd raddau anrhydeddus prifysgolion Grenoble ac Oslo. Priododd Evelyn Imelda Chichester, merch Dr. Theo Hoskin, Y.H., Llundain. Bu'n afiach am beth amser, gan farw yng Nghernyw, 25 Awst 1946.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.