Ganwyd 31 Rhagfyr 1878 yn Pant-y-croy, Llanfihangel-ar-Arth, Sir Gaerfyrddin, mab William Evans , arwerthwr, a Mary (née Powell) - a'i fedyddio o dan yr enw David. Treuliodd y rhan fwyaf o'i febyd yn Lan-las, Rhydlewis, gan fynychu ysgol y bwrdd yno cyn cael ei brentisio mewn busnes gwerthwr dilladau, etc. Bu'n gweithio fel cynorthwyydd mewn siopau yng Nghaerfyrddin, Caerdydd, a Llundain. Yn Llundain âi i ddosbarthiadau yn Toynbee Hall a'r Working Men's College yn Crowndale Road a meistrolodd gelfyddyd ysgrifennu. Dechreuodd ysgrifennu i newyddiaduron a chylchgronau ar ei ben ei hun, sef fel 'free lance', eithr bu hefyd ar staff olygyddol rhai cylchgronau - yn enwedig Ideas a T.P.'s Weekly. Ymddangosodd ei ystorïau cynharaf yn yr English Review, 1914. Ei gyfrol gyntaf oedd My People , 1915. Parodd y gwaith hwn dramgwydd mawr i nifer helaeth iawn o'i gyd- Gymry, megis y gwnaeth popeth bron a ysgrifennodd ef wedi hynny. Cyhoeddodd bump casgliad o ystorïau byrion - My People 1915; Capel Sion, 1916; My Neighbours, 1919; Pilgrims in a Foreign Land, 1942; The Earth Gives All and Takes All, 1946; pump o nofelau - Nothing to Pay, 1930, ydyw'r gorau ohonynt; drama, Taffy, 1923; a Journal, a gyhoeddwyd wedi ei farw. Bu hefyd yn gwneud gwaith cynorthwyydd i ysgrifenwyr eraill. Rhestrir ei ystorïau gorau gyda rhai gorau ysgrifenwyr ei gyfnod. Yn 1934-35 dychwelodd i Gymru a bu'n helpu i redeg theatr yn Aberystwyth. Yn 1939 ymsefydlodd yn Aberystwyth ac wedyn yn New Cross gerllaw. Priododd ddwywaith, (1), 1907, Rose Ware (ysgarwyd hwynt ar 8 Mawrth 1933), a (2), Mai 1933, Marguerite Helène (Oliver Sandys, y nofelydd), merch Cyrnol H. P. Jervis. Ni fu iddo blant. Bu farw 11 Ionawr 1945 (10 yn ôl Who Was Who) yn New Cross.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.