EVANS, DAVID (1874 - 1948), cerddor

Enw: David Evans
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1948
Priod: Mary Evans (née Thomas)
Rhiant: Sarah Evans
Rhiant: Morgan Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: David Ewart Parry Williams

Ganwyd 6 Chwefror 1874 yn Resolfen, Sir Forgannwg, mab Morgan a Sarah Evans. Cafodd ei addysg yn Arnold College, Abertawe, a choleg y Brifysgol, Caerdydd, a dilyn Dr. Joseph Parry, yn 1903, yn bennaeth adran cerddoriaeth yn y coleg (a chael y gadair yn 1908). Daeth i amlygrwydd yn gynnar yng Nghymru fel cyfansoddwr - gyda'r gweithiau hyn: - 'Llawenhewch yn yr Ior' (oratorio fechan, a berfformiwyd yn Ffestifal Caernarfon, 1906), 'The Coming of Arthur' (cantata ddramatig), a berfformiwyd yn y Triennial Festival yng Nghaerdydd, 1907), 'Deffro! Mae'n Ddydd' (balad gorawl), a 'Carmen' (gosodiad o 'awdl' Ladin); canwyd 'Deffro! Mae'n Ddydd' a 'Carmen' yn seremoni agor adeiladau newydd coleg Caerdydd, 1909. Cyfansoddwyd ei gerddoriaeth achlysurol (sydd heb ei gyhoeddi) i 'Alcestis' ar gyfer perfformiad o'r ddrama Roeg honno yng Nghaerdydd yn 1928, a'r gantata fechan, 'Gloria', ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant Methodistiaeth yng Nghymru.

Bu dylanwad Dr. David Evans ar gerddoriaeth Cymru yn ddwfn ac yn barhaol. Yr oedd ei lwyddiant eithriadol fel athro mewn coleg yn cydredeg â theyrngarwch i ddau sefydliad cerddorol Cymreig a thraddodiadol - y gymanfa ganu a'r eisteddfod. Bu'n ddiwyd ac yn egnïol yn ceisio codi safonau cerddoriaeth trwy'r wlad a bu i'w Moliant Cenedl, casgliad ysgolheigaidd o'r tonau gorau, ddylanwad ardderchog ar y pryd. Dangosodd hefyd pan oedd yn golygu Y Cerddor (1916-21) ei fod yn llwyr ddeall sefyllfa cerddoriaeth yng Nghymru. Cefnogai hyrwyddo cerddoriaeth gerddorfaol ac awgrymodd hefyd lawer o welliannau ynglŷn â cherddoriaeth yr eisteddfod. Cydnabyddid yn bur gyffredinol ei fod yn arbenigwr mewn cerddoriaeth grefyddol a cheir nifer o'i donau yn y llyfrau emynau Saesneg gorau. Efe oedd cadeirydd y pwyllgor o arbenigwyr a oedd yn gyfrifol am y Revised Church Hymnary a golygydd The Children's Hymnbook (Blackie); yr oedd yn gyfrifol hefyd i raddau helaeth am olygu Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a'r Wesleaidd. Ymddangosodd rhai o'i gynhyrchion bach o dan y ffugenw 'Edward Arthur'.

Priododd 1899, Mary Thomas, Plas-y-coed, Treforus, a bu iddynt ddau fab. Bu farw 17 Mai 1948.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.