EVANS, HOWELL THOMAS (1877 - 1950), hanesydd ac athro

Enw: Howell Thomas Evans
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1950
Priod: Gwenllian Evans (née Howells)
Rhiant: Mary Evans
Rhiant: John Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd ac athro
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 6 Tachwedd 1877, yng Nghwmbwrla, ger Abertawe, yn ail fab i John Evans, gweithiwr dur, a Mary ei wraig. Bu dan addysg yn yr ysgol ramadeg, Abertawe; coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth; a choleg Sant Ieuan, Caergrawnt. Graddiodd mewn hanes ym mhrifysgolion Cymru, Llundain, a Chaer-grawnt. Bu'n dysgu yn ysgol Wellington, ac yn ysgol ramadeg y Frenhines Elizabeth yng Nghaerfyrddin; yna yn ysgol uwchradd y Bechgyn, Caerdydd, o 1905 hyd 1917. Yn y flwyddyn honno penodwyd ef yn brifathro'r ysgol sir yn Aberaeron, a daliodd y swydd nes iddo ymddeol yn 1944. Ysgrifennodd nifer o lyfrau hanes, yn eu plith History of England and Wales (1909, 1910); Making of Modern Wales (1912); Wales and the Wars of the Roses (1915); Once upon a time (1929); At Such and Such a time (1931); Long long ago (1932); The Age of Expansion (1933). Bu'n llywydd Cymdeithas Prifathrawon Ysgolion Uwchradd Cymru yn 1940, ac am beth amser yn un o gynrychiolwyr ei gyd-brifathrawon ar Lys y Brifysgol.

Yr oedd Howell Evans yn ŵr eang ei ddiddordebau, ac ni fodlonodd ar fyw a gweithio yn rhigolau cyffredin yr athro, er cymaint ei gynnyrch llenyddol fel hanesydd. Yn ei anerchiad o'r gadair i Gymdeithas y Prifathrawon (Mai 1940) ymhelaethodd ar ei syniadau am wir natur addysg, gan bwysleisio pwysigrwydd yr unigolyn a'r angen am beidio â cheisio troi allan bob disgybl yn ôl yr un patrwm. Gwawdiai'r unffurfiaethau a oedd ar gerdded; amddiffynnai ysgolion bonedd Lloegr am iddynt goleddu egwyddor annibyniaeth mewn addysg; barnai fod galluoedd y gweinyddwr ym myd addysg yn cynyddu a bod angen eu cwtogi. Yr oedd hefyd yn arddwr ymroddedig ac yn awdurdod ar dyfu blodau Mihangel. Priododd Gwenllian Howells, o Lansawel, Sir Forgannwg, yn 1904, a ganwyd iddynt bedwar o feibion. Bu farw yn Aberaeron, 30 Ebrill 1950, a'i gladdu yng Nghaerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.