Ganwyd 16 Tachwedd 1865, yn Nowlais, yn fab i John Bennett ac Ellen ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Merthyr Tydfil; bu'n ysgolor o goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn ' Exhibitioner ' o goleg Corff Crist, Rhydychen, gan raddio (M.A. Llundain a Rhydychen) gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y clasuron, a B.D. (Llundain). Penodwyd ef yn athro yn Nhrefecca cyn iddo orffen ei gwrs yn Rhydychen (1891) a symudodd i Aberystwyth yn 1906 pan gychwynnwyd y coleg diwinyddol yno. Bu'n gyfrifol am hyfforddiant efrydwyr yn y clasuron a llenyddiaeth Saesneg, yn y Testament Newydd, ac, yn y blynyddoedd olaf, yn Hanes yr Eglwys. Bu'n arholwr am flynyddoedd yn arholiadau'r ' Oxford Locals ' a Bwrdd Canol Cymru, ac yn Ddeon Adran Ddiwinyddol Prifysgol Cymru (1922-26). Yr oedd yn awdur esboniad Cymraeg ar Efengyl Luc, 1927, ac ysgrifennodd lawer i newyddiaduron a chylchgronau ar bynciau clasurol, hanesyddol, a chrefyddol (gweler y rhestr yn Who's Who). Ordeiniwyd ef yn 1897, bu'n ddarlithydd Davies ('Cymun Corff Crist'), 1928, Llywydd Cymdeithasfa'r De, 1941-42; bu farw cyn diweddu ei dymor 26 Rhagfyr 1941.
Yr oedd yn ŵr hynod o wybodus mewn mwy nag un maes, eithr nid oedd ei ddoniau i gyfrannu o'i ystorfeydd yn gymesur â'i wybodaeth, er na bu neb parotach yn helpu efrydwyr a geisiai ei gyfarwyddyd. Yr oedd yn gwmnïwr diddan gyda stori a dywediad pert bob amser wrth law, a chyfunid ynddo lawer o nodweddion yr hen ysgolwyr ('scholastics'); hoff ydoedd o gynganeddu mewn ysgrifau, llythyrau, ac hyd yn oed mewn papurau arholiad, a rhyfeddid at swm a manyldra ei wybodaeth mewn mwy nag un maes. Yr oedd yn un o gwmni bychan o Gymry, yn cynnwys Syr Joseph Bradney, a ohebai â'i gilydd yn Lladin. Cyhoeddodd nifer o gerddi yn Gymraeg ac yn Lladin a'u rhannu i'w gyfeillion.
Priododd Ellen, merch John Morgan, Y.H., Aberhonddu, a bu iddynt fab a dwy ferch.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.