Fe wnaethoch chi chwilio am 1941
Ganwyd 9 Tachwedd 1869, mab y Parch. Osbert Fynes-Clinton, rheithor Barlow Moor ger Didsbury. Graddiodd yng Ngholeg S. Ioan, Rhydychen, ac yn 1892 etholwyd ef gan y Brifysgol yn ' Taylorian Scholar ' mewn Sbaeneg. Bu'n dysgu Ffrangeg yn ysgol y Brenin Edward, Aston, Birmingham, o 1896 hyd 1904, pryd y penodwyd ef yn athro Ffrangeg yng ngholeg y Gogledd, Bangor, swydd a ddaliodd nes ymddeol ohono yn 1937; penodwyd ef yn athro emeritus yr un flwyddyn. Yr oedd yn ieithydd disglair, a threuliodd ei oriau hamdden i wneud astudiaeth drylwyr o dafodiaith Arfon. Yn 1913 cyhoeddodd The Welsh Vocabulary of the Bangor District, gwaith a sicrhaodd iddo safle anrhydeddus yn hanes ieithyddiaeth Gymraeg; dyma'r unig eirfa gynhwysfawr o dafodiaith Gymraeg a gyhoeddwyd mewn dull gwyddonol hyd yma. Cydnabu Prifysgol Cymru ei lafur yn 1939 trwy roddi iddo radd D.Litt. er anrhydedd. Bu farw 9 Awst 1941.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/