Fe wnaethoch chi chwilio am 1941
Ganwyd 1 Mai 1903 ym mhlwyf Llanllwchhaearn, Sir Drefaldwyn, mab Richard a Mary Jane Goodwin. Bu yn ysgol ganolraddol Tywyn, Sir Feirionnydd. O 1922 hyd 1938 yr oedd yn byw yn Llundain, gan ysgrifennu i newyddiaduron a chyfnodolion ac yn cyfansoddi llyfrau. Yn 1932 priododd Rhoda Margaret, merch Harold Storey. Ei lyfrau cyntaf oedd Conversations with George Moore, 1929, a Call Back Yesterday, 1935 - yr ail, i raddau, yn hunan-gofiannol. Troes wedyn i ysgrifennu nofelau a storïau ac at bynciau Cymreig - The Heyday in the Blood, 1936, The White Farm (storïau byrion) 1937, Watch for the Morning, 1938, a Come Michaelmas, 1939. Y mae ei storïau am Gymru a'r goror yn llawn o fywyd ac o sawyr y ddaear. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n byw yng Nghorris Ucha ac wedyn yn Nhrefaldwyn lle y bu farw 10 Hydref 1941.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/