Ganwyd yng Nghaerfyrddin 15 Rhagfyr 1854, yn fab hynaf i Francis Green, Oaklands, a'i briod Elizabeth Harries o Dre-facwn, gerllaw Tre-fin, ac addysgwyd mewn ysgol Forafaidd ym Mhen-dain, yn ysgol y Siapter yn Nhyddewi, ac yn ysgol Amwythig. Wedi astudio'r gyfraith yn Llundain a gweithio yn swyddfa'i dad, ymfudodd yn 1878 i Ganada, lle y bu'n ffermio nes dychwelyd i Lundain yn 1892 i weithio yn swyddfa'r Financial Times. Ymneilltuodd i Dyddewi yn 1907, a bwriodd weddill ei oes faith mewn ymchwiliadau hynafiaethol, gan ennill bri mawr ynddynt. Golygodd y West Wales Historical Records; lluniodd galendrau o'r Coleman Deeds (1921), Crosswood Deeds (1927) a'r Hawarden Deeds (1931) yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond erys ei galendr o ddogfennau Peniarth heb ei gyhoeddi; a chyfrannodd bapurau pwysig ar hanes Sir Benfro i'r Cymmrodor ac i Drafodion y Cymmrodorion. Y mae llawer o'i lawysgrifau yn llyfrgell sir Benfro yn Hwlffordd a chopïau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu farw 6 Awst 1942, yn Nhyddewi.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.