GRIFFITH-JONES, EBENEZER (1860 - 1942), gweinidog Annibynnol a phrifathro

Enw: Ebenezer Griffith-jones
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1942
Priod: Carita Griffith-Jones (née Stoner)
Rhiant: Mary Ann Jones (née Griffiths)
Rhiant: E. Aeron Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol a phrifathro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Merthyr Tydfil, 5 Chwefror 1860, mab y Parch. E. Ayron a Mary Ann Jones. Cafodd bob manteision addysg yn ei ieuenctid. Priodolai ei ddiwylliant yn bennaf i ddylanwad ei dad. Bu yn ysgol ramadeg Castell Newydd Emlyn, yng ngholeg Caerfyrddin, 1875-78, yn athro cynorthwyol yn Abertawe, 1879-80; ac yn New College a Phrifysgol Llundain, 1880-85, pryd yr enillod amryw wobrau ac ysgoloriaethau. Graddiodd yn B.A. (Llundain) yn 1882. Bu'n weinidog S. John's Wood, 1885-87; Park Chapel, Llanelli, 1887-90; Stroud Green, 1890-98; Balham, 1898-1907; prifathro'r Yorkshire United Independent College, Bradford, 1907-32; ac yna yn ôl i Gymru a chymryd gofal yr eglwys Annibynnol Saesneg yn Llandeilo, 1932-6. Anrhydeddwyd ef â gradd D.D. gan Brifysgol Caeredin. Bu'n gadeirydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru a Llywydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. Ysgrifennodd The Ascent through Christ 1899, Providence (2 vols.), The Master and His Method 1903, The Economics of Jesus 1904, The Dominion of Man 1926 &c. a llu o erthyglau mewn cylchgronau diwinyddol ac athronyddol. Anghydffurfiwr cadarn ac anhyblyg ei farn, dadleuwr pybyr ar faterion diwinyddol a chyhoeddus. Priododd Carita (marw 1936), merch T. F. Stoner, Elstree, a bu iddynt ddau o blant. Bu farw 22 Mawrth 1942.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.