HOOSON, ISAAC DANIEL (1880 - 1948), cyfreithiwr a bardd

Enw: Isaac Daniel Hooson
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1948
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cyfraith; Barddoniaeth
Awdur: Thomas Parry

Ganwyd 2 Mai 1880, yn Rhosllannerchrugog, mab i Edward a Harriet Hooson. Yr oedd teulu ei dad yn hanfod yn wreiddiol o Gernyw. Addysgwyd I. D. Hooson yn ysgol fwrdd y Rhos ac ysgol ramadeg Rhiwabon. Yn 1897 aeth i wasanaethu'r Mri Morris & Jones yn Lerpwl, ac yno y bu hyd 1904, pan fu farw ei dad. Yna rhwymwyd ef gyda chyfreithiwr yn Wrecsam, ac arhosodd yno hyd ddechrau'r Rhyfel Mawr cyntaf. Yn ystod y rhyfel hwnnw bu'n gwasanaethu yn y llynges. Wedi ei ryddhau yn 1919 ymsefydlodd fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam. O 1920 hyd 1943 daliodd y swydd o ' Official Receiver in Bankruptcy ' yng nghylch Caer a Gogledd Cymru. Bu'n noddwr i Urdd Gobaith Cymru ac yn aelod defnyddiol iawn o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a'i bwyllgorau. Rhwng 1900 a 1914 ysgrifennodd gryn dipyn o farddoniaeth, a gwelir ei gerddi yma a thraw yn Cymru, (O.M.E.) Yna rhoes y gorau i farddoni am flynyddoedd a phan ailddechreuodd cydnabuwyd ef ar unwaith fel un o brif feirdd Cymru. Telynegion a baledi oedd ei hoff ffurfiau, ac y mae sicrwydd ergyd a swyn gweledigaeth a mynegiant ym mhopeth a ganodd.

Cyhoeddodd Y Fantell Fraith (1934), cyfaddasiad o ' Pied Piper of Hamelin ', Cerddi a Baledi (1936), Y Gwin a Cherddi Eraill 1948). Cafodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1948. Bu farw 18 Hydref 1948.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.