Ganwyd 10 Gorffennaf 1875 ym Mhen-clawdd, mab Daniel ac Ann Hughes. Yn ôl y Parch. W. Glasnant Jones, Abertawe, bu'n gweithio am ysbaid fel crydd yn Nhre-gŵyr cyn mynd i ysgol y Gwynfryn, Rhydaman. Addysgwyd ef yn New College a Phrifysgol Llundain lle y graddiodd yn B.A. (anrhyd. dosb. 1af mewn Athroniaeth), a B.D. (anrhyd. dosb. 1af mewn Diwinyddiaeth Feiblaidd).
Urddwyd ef yn Gunnersbury yn 1904 a bu yno hyd 1911. Symudodd i Bishop's Stortford (1911-22) lle'r ysgrifennodd ei draethawd ar ' Athroniaeth Plotinus ' a ddug iddo radd D.Litt. ym Mhrifysgol Llundain. Yn 1922 penodwyd ef yn brifathro coleg yr Annibynwyr, Caeredin, ac yno y llafuriodd hyd 1937 yn fawr ei glod a'i lwyddiant.
Enillodd radd D.D. (Llun.) am draethawd ar ' The Hebraic and Hellenic idea of God ', a chydnabuwyd drachefn ei lafur a'i wasanaeth â D.D., er anrhydedd, gan Brifysgol Caeredin. Ef oedd yr athro mewn Diwinyddiaeth Feiblaidd a Chyfundrefnol ac Athroniaeth Crefydd yno. Gwasanaethodd fel darlithydd yn y ' Post-graduate School of Divinity ' (Prifysgol Caeredin), ac fel arholwr mewn Diwinyddiaeth (Prifysgol Llundain).
Heblaw cyfrannu ysgrifau i wahanol gylchgronau Saesneg, cyhoeddodd nifer o gyfrolau pwysig a gwerthfawr, megis: - The New Psychology and Religious Experience, 1933; The Psychology of Preaching and Pastoral Work 1939; The Philosophic Basis of Mysticism, 1937; Psychology and Religious Origins, 1936; Psychology and Religious Truth, 1942; The Atonement (Modern Theories of the Doctrine) &c. cyhoeddwyd yr olaf wedi ei farwolaeth.
Gweithiwr mawr, ysgolor gwylaidd, a gŵr o ddiwylliant ysbrydol dwfn a gysegrodd ei holl ddoniau i amcanion ymarferol y weinidogaeth ydoedd. Wedi ymddeol cartrefodd yn Mount Grange, Penyrheol Drive, Sgeti, Abertawe, lle y daliodd y bregethu hyd at ei farwolaeth yno ar 14 Awst 1945, ychydig ar ôl ei briod Nina (bu farw 1940), merch Daniel Owen. Ni fu iddynt blant.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.