HUGHES, THOMAS ISFRYN (1865 - 1942), gweinidog Wesleaidd

Enw: Thomas Isfryn Hughes
Dyddiad geni: 1865
Dyddiad marw: 1942
Priod: Catherine Hughes (née Jenkins)
Rhiant: John Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd 16 Hydref 1865 yng Nghlocaenog, sir Ddinbych, mab John Hughes, gwerinwr goleuedig a diwinydd praff. Dechreuodd bregethu yn ddeunaw oed, derbyniwyd i'r weinidogaeth yn 1887, ac wedi tymor yng ngholeg diwinyddol Handsworth gwasanaethodd gylchdeithiau Abergele (1890), Llanfaircaereinion (1891), y Rhyl (1893), Tywyn (1895), Coed-poeth (1896), Tre-garth, (1899), Mynydd Seion, Lerpwl (1902), Blaenau Ffestiniog (1905), Llanrhaeadr Mochnant (1908), Mynydd Seion, Lerpwl (1911). Oakfield, Lerpwl (1914), Porthmadog (1919), Llundain (1922), Porthmadog (1925), a Biwmares (1928). Ymneilltuodd yn 1931; bu farw ym Mae Trearddur, Môn, 27 Rhagfyr 1942. Priododd 11 Medi 1894 â Catherine, merch Thomas a Margaret Jenkins, o Aberdyfi. Efe oedd Llywydd Cymanfa'r Wesleaid yn 1918. Yr oedd yn awdur amryw ysgrifau (diwinyddol yn bennaf) yn yr Eurgrawn Wesleaidd ('Papurau Diwinyddol', 1911; 'Y Tu Hwnt i'r Llen', 1921-2; a chyfresi eraill byrrach) dan ei enw ei hun a'r ffug-enw 'Ifor Glyn', erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd, esboniad ar Philippiaid a Philemon, a chatecism diwinyddol, Yr Arweinydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.