Ganwyd ger Penfforddelen, Y Groeslon, Sir Gaernarfon, 10 Medi 1891, yn fab i John Owen ac Ann Jane Hughes, ond symudodd ei rieni yn fuan ar ôl ei eni i fyw i Nantlle. Chwarelwr oedd y tad, ac yn ddiweddarach, arolygydd llechi.
Addysgwyd yn ysgol y cyngor, Nantlle. Amlygodd yn gynnar ei fod yn fachgen talentog, a chafodd yrfa eithriadol o lwyddiannus yn yr ysgol sir ym Mhen-y-groes, 1904-1908.
Ymaelododd yng ngholeg y Brifysgol ym Mangor yn 1909. Enillodd le uchel yn ei holl destunau trwy gydol ei gwrs, a cheir ei enw y naill flwyddyn ar ôl y llall yn rhestr y myfyrwyr a dderbyniodd ysgoloriaeth am ragoriaeth eu gwaith. Cymerodd radd B.A. yn 1912, gydag anrhydedd mewn Saesneg, yn yr ail ddosbarth, ac yn yr arholiad am dystysgrif y Bwrdd Addysg, gosodwyd ef yn y dosbarth cyntaf.
Ym Medi 1912 aeth am dymor i Nuremberg i'r Le Cours de Langues Institute i ddilyn cwrs mewn Ffrangeg ac Almaeneg, ac yn y dulliau o'u dysgu, a dysgai Saesneg i Almaenwyr mewn ysgolion nos.
Treuliodd chwe blynedd a hanner wedyn yn athro mewn ysgolion uwchradd. Yn gyntaf yn Lisburn, Belfast, o Ionawr 1913 hyd 1915; yna yn Ilminster, gwlad yr Haf, hyd 1916; ac yna yn Ysgol Friars, Bangor, hyd 1919.
Enillodd radd M.A. yn 1919, a chyhoeddwyd ei draethawd yn llawlyfr yn 1924, - Wales and the Welsh in English Literature from Shakespeare to Scott. (Hughes and Son). Cais i olrhain ac egluro agwedd awduron Seisnig tuag at Gymru a'r genedl Gymreig oedd y gyfrol. Gwnaeth ymchwil manwl i'w destun, ac y mae camp ar y ffordd glir y crynhôdd ffrwyth ei astudiaeth, ac ar y modd yr adroddodd yr hanes yn ddifyr ac yn fyw o'r dechrau i'r diwedd. Yr oedd gwerth arbennig yn y penodau ar y teithwyr a'r hynafiaethwyr. Felly hefyd, yn y ddau atodiad - gan mor ddiddorol yw'r drafodaeth ar y gyfathrach rhwng hynafiaethwyr Cymru a Lloegr yn y 18fed ganrif yn y cyntaf, a chan mor gyflawn yw llyfryddiaeth y pwnc yn yr ail.
Yn 1919, penodwyd ef y ddarlithydd ar yr iaith Saesneg a'i llenyddiaeth yn y Coleg Normal, Bangor - swydd a ddaliodd hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn ŵr o ddiwylliant eang, a gadawodd ei ddylanwad yn drwm ar ei fyfyrwyr.
Yn 1925, priododd â Laura Binns, athrawes yn y Coleg Normal, a chawsant ddwy ferch.
Rhwng 1920 a 1930, rhoes gryn lawer o sylw i faterion addysg yng Nghymru. Ysgrifennodd erthyglau ar y pwnc i'r Genedl, a'r Efrydydd a'r Welsh Outlook, a chafodd wobr o £15 yn eisteddfod Genedlaethol Caergybi, 1927, am draethawd ar y testun - 'Cyfundrefn addysg cenedl y Cymry'. Bu'n athro hefyd ar ddosbarthiadau pobl mewn oed, ac am lawer blwyddyn bu'n gwasanaethu fel arholwr cynorthwyol mewn Saesneg yn arholiadau'r Bwrdd Canol Cymreig.
Yn y tri-degau, dechreuodd ymddiddori ym mywyd cyhoeddus Bangor. Gwasanaethodd ar gyngor y ddinas o 1932 hyd 1944, a bu'n gadeirydd pwyllgor y materion cyffredinol o 1939 hyd 1944. Yr oedd yn ŵr o farn gytbwys ac o feddwl clir, a gwerthfawrogid ei arweiniad gan ei gyd-aelodau.
Nid oedd yn gryf o gorff. Torasai ei iechyd i lawr am gyfnod yn 1921, ac ym mlynyddoedd olaf yr Ail Ryfel gwaethygodd eto. Bu farw 24 Ebrill 1945, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.