JAMES, JENKIN (1875 - 1949), ysgrifennydd cyntaf Cyngor Prifysgol Cymru ac awdur

Enw: Jenkin James
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1949
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgrifennydd cyntaf Cyngor Prifysgol Cymru ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 28 Rhagfyr 1875, ym mhlwyf Llannarth, Sir Aberteifi. Bu'n efrydydd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac enillodd radd B.A. Prifysgol Llundain yn 1895, ac M.A. yr un brifysgol yn 1900. Bu'n athro yn ysgol ramadeg Biwmares, 1897-99, ac yn ysgol ganolradd Y Barri, 1900-04. Yn 1904 penodwyd ef yn glerc pwyllgor addysg Sir Aberteifi, ac yn 1908 yn gyfarwyddwr addysg yr un sir. Bu yn y swydd hon hyd fis Medi 1920 pan benodwyd ef yn gyfarwyddwr addysg bwrdeisdref sirol Barnsley yn sir Efrog. Yn yr un flwyddyn gwnaed ef yn O.B.E. Yn 1921 penodwyd ef yn ysgrifennydd Cyngor Prifysgol Cymru, swydd y bu ynddi hyd iddo ymddeol yn 1945. Cyflwynwyd iddo radd LL.D. Prifysgol Cymru (er anrhydedd) yn 1946. Golygodd ddwy gyfrol fechan o ddetholion o weithiau beirdd Sir Aberteifi ar gyfer plant ysgol dan y teitl Gemau Ceredigion, 1914-15, ac ail gyhoeddwyd cynnwys y ddwy gyfrol yn un yn 1930. Ysgrifennodd hefyd werslyfrau ysgrythurol megis Gwerslyfr ar Hanes yr Iesu (1918), a Llawlyfr ar y rhan gyntaf o Actau'r Apostolion … (1920), a nifer o erthyglau a phamffledi. Bu farw 31 Hydref 1949.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.