JONES, EDMUND DAVID (1869 - 1941), ysgolfeistr ac awdur

Enw: Edmund David Jones
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1941
Priod: Claudia Jones (née Morgan)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Nhrawsfynydd, 9 Medi 1869. Bu ei dad farw pan oedd y plentyn yn ieuanc a than ofal mam o alluoedd cryf a'i daid, David Jones, gŵr amlwg gyda'r Bedyddwyr Albanaidd, y magwyd ef. Cydnabyddai ddyled i brifathro ysgol y pentre ac i'w athrawon yn ysgol uwchradd Blaenau Ffestiniog. Yn 1885, aeth i ysgol ramadeg y Bala ac yn 1886 i goleg y Brifysgol ym Mangor. Graddiodd gydag anrhydedd mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Llundain yn 1890. Yn 1891 cafodd le fel athro yn y Birkenhead Institute, ond ymhen blwyddyn dychwelodd i Fangor i fod yn ddisgybl-gynorthwywr mewn Ffrangeg. Yn 1893 er mwyn paratoi am radd M.A. Llundain aeth i Rydychen gan fynychu darlithiau ac astudio mewn llyfrgelloedd yno, ond heb ymaelodi mewn coleg. Cymerodd y radd yn 1894 gan arbenigo mewn Ffrangeg a Saesneg. Parhaodd yn fyfyriwr drwy gydol ei oes a mynychai ddosbarthiadau gwyliau'r Alliance Française yn Ffrainc. Pan sefydlwyd Ysgol Ganolradd Abermo, yn 1894, ef a ddewiswyd yn Brifathro a bu yn y swydd honno nes ymddeol yn 1931. Dechreuodd gyda saith disgybl mewn tŷ annedd, ond erbyn 1900 yr oedd wedi llwyddo drwy ymdrech leol galed i gael ysgol newydd ar fin y môr, a'i gwneud yn rym yn Ardudwy. Fel prifathro yr oedd yn arloeswr; ieithoedd oedd ei brif bwnc, a rhoddai bwyslais ar seineg, gan ddefnyddio'r gramoffon yn gynnar yn offeryn i ddysgu seiniau cywir. Yr oedd o flaen ei oes yn y lle a roddai i Gymraeg a'i llenyddiaeth mewn addysg. Gwelir ei agwedd yn y traethawd ' Lle'r Gymraeg yn Addysg Ddyfodol Cymru ' a enillodd wobr iddo yn yr eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898. Yn yr un ysbryd y cyhoeddodd Gemau Ceiriog i Blant yn 1900, gwaith a fu'n boblogaidd iawn am dros chwarter canrif, ac a gyrhaeddodd ei nawfed argraffiad erbyn 1927. Pwnc arall y cymerai ddiddordeb dwfn ynddo ydoedd lle'r celfyddydau cain mewn addysg. Gofalai gael darluniau o waith y meistri ar furiau ei ysgol. Wedi ymddeol aeth ati i lunio'r hyn a ddisgrifiai fel ' brasolwg ar ddatblygiad Celfyddyd o'r amserau cynharaf hyd at adeg y Dadeni '; sef y gyfrol ddarluniedig Camre Celfyddyd a gyhoeddwyd yn 1938. Daw agweddau eraill ar ei ddiddordebau i'r amlwg yn y cyfrolau Saesneg a olygodd ar gyfer plant ysgolion gramadeg, megis dethodiad o gerddi James Russell Lowell yr ystyriai eu bod yn agor llygaid plant i ganfod prydferthwch, (Select Poems … 1906), Of King's Treasures, 1907, allan o Sesame and Lilies John Ruskin, awdur a fu'n drwm ei ddylanwad arno fel Sosialydd Cristnogol, Poems of Wales, 1914, a dwy gyfrol yn y ' World's Classics ', - English Critical Essays (nineteenth century), 1916 a 1922, a English Critical Essays (sixteenth, seventeenth, and eighteenth century). Bu'n athro Ysgol Sul am flynyddoedd yn y Bermo ac, wedi ymddeol, yng nghapel Penuel, Bangor, a chyfrannodd nifer o ysgrifau ar bynciau dyrys yn y Testament Newydd i'r Expositor. Priododd Claudia, merch ieuengaf T. J. Morgan, Pen -y-gar, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw wedi damwain 13 Chwefror 1941, a chladdwyd ef yn y fynwent newydd ar ffordd Llandygái.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.