JONES, DAVID JAMES (1886 - 1947), athro athroniaeth

Enw: David James Jones
Dyddiad geni: 1886
Dyddiad marw: 1947
Priod: Margaretta Jones (née Roderick)
Rhiant: Jane Jones
Rhiant: William Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro athroniaeth
Maes gweithgaredd: Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Richard Ithamar Aaron

Ganwyd 22 Rhagfyr 1886 yn y Pandy, Pontarddulais, mab William a Jane Jones. Cafodd ei addysg yn ysgol ganolraddol Tregŵyr, coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd, a choleg Emmanuel, Caergrawnt; graddiodd yn B.A. (Cymru) gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Hebraeg ac athroniaeth, a daeth yn gymrawd o Brifysgol Cymru; cymerodd radd M.A. yn 1912. Ordeiniwyd ef, 1915, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bu'n gaplan gyda'r fyddin yn Ffrainc yn ystod rhyfel 1914-18, a bu'n weinidog yn Bryn-mawr ac Abertawe. Yn 1928 dewiswyd ef yn diwtor mewn athroniaeth a seicoleg yng ngholeg Harlech; 10 mlynedd yn ddiweddarach etholwyd ef yn athro athroniaeth yng ngholeg Prifysgol Cymru ym Mangor. Priododd 1917, Margaretta Roderick, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin.

At y gwres a oedd yn nodweddiadol o'i bregethu fe ychwanegwyd yn ddiweddarach, yn rhinwedd ei ymladd hir yn erbyn afiechyd, ddoethineb aeddfed, llonyddwch, urddas, a thynerwch - y cwbl hyn yn ei wneuthur yn athro nodedig. Yn ei athroniaeth ceisiai gael safbwynt y gwyddonydd i gydfynd â safbwynt y Cristion. Ysgrifen nodd erthygl i Harlech Studies, 1938, o dan y teitl ' Nodiadau ar y Method Gwyddonol '; y mae erthyglau ganddo hefyd yn Y Traethodydd a'r Efrydiau Athronyddol. Cyhoeddodd yn 1939, Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd, gwaith sydd yn astudiaeth dreiddiol o leddwl y Groegiaid. Bu farw 23 Gorffennaf 1947 a chladdwyd ef ym Mangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.