Ganwyd 20 Mai 1863 ym Mynydd Cynffig, Sir Forgannwg; cafodd ei addysg yng ngholeg Pont-y-pŵl; ordeiniwyd ef ym Merthyr Vale 1880-91 a bu'n weinidog wedyn ym Mrymbo 1891-1913, a Thabernacl Cefn-mawr; ymneilltuodd yn 1934. Yr oedd yn Fedyddiwr selog a digymrodedd; bu'n ysgrifennydd Cymanfa Dinbych, Flint, a Meirion am flynyddoedd, a'i chadeirydd ddwywaith; llywydd Undeb y Bedyddwyr, 1928; efe oedd y prif awdurdod ar Lythyrau Cymanfaoedd yr enwad (gweler Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1922). Yn ychwanegol at hyn, yr oedd gyda'r gŵr prysuraf ym mywyd cyhoeddus gogledd Cymru, brwd, pybyr, egnïol, yn aelod o hen fwrdd gwarcheidwaid Gwrecsam, ac yn aelod blaenllaw o bwyllgor addysg cyngor sir Ddinbych (yn 1933 cyhoeddodd lyfr tra gwerthfawr ar hanes ysgolion Cefn-mawr a'r cylch). Nid oedd dirwestwr yn y wlad mwy pybyr nag ef, canys yr oedd ei lais yn uchel glywadwy yng nghymanfa ddirwestol Gwynedd ac yn y llysoedd trwyddedu (' Your Mr. Jones is worth twenty of our men ', meddai un o brif ddynion y bragwyr wrth ddirwestwr arall). Yr oedd yn heddychwr diffuant hefyd, amlwg yn dadlau o flaen tribiwn-lysoedd, a chyfansoddi pamffledi Cymraeg i gymdeithas Heddwch Cymru. Ei brif weithiau llenyddol oedd (ar wahan i lu o ysgrifau mewn cyfnodolion), The Baptists of Wales and Ministerial Education (1902), Y Beibl a Dirwest (1906), A Short Sketch of the History of the Baptist Church of Llanidloes (1908), Hanes Cymdeithas genhadol y Bedyddwyr (1944); yn 1941 cyhoeddodd Hanes Eglwys Annibynnol Brymbo (Harwt a Bryn Seion). Yn 1937 cafodd ei urddo'n D.D. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Cymru. Bu farw 18 Gorffennaf 1950.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.