JONES, THOMAS LLECHID (1867 - 1946), offeiriad, llenor, a llyfryddwr

Enw: Thomas Llechid Jones
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1946
Priod: Elizabeth Dolben Jones (née Jones)
Rhiant: Catherine Jones
Rhiant: Hugh Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, llenor, a llyfryddwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 4 Rhagfyr 1867, yn y Tyddyn Uchaf, Llanllechid, Sir Gaernarfon, yn fab i Hugh Jones a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg yng ngholeg y Brifysgol, Bangor, a choleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Wedi iddo raddio (B.A., yn 1896) yng ngholeg Dewi Sant ordeiniwyd ef (1897) i guradiaeth eglwys S.David, Blaenau Ffestiniog; daeth yn offeiriad yn 1899. Yn 1902 daeth yn gurad Llanllyfni, Sir Gaernarfon, yn 1906 cafodd ficeriaeth Ysbyty Ifan, ac, yn 1915, ficeriaeth Llysfaen; cafodd ei wneuthur yn rheithor Llangynhafal (gyda Llangwyfan) yn 1934. Priododd 9 Ionawr 1917, Elizabeth Dolben Jones. Ymneilltuodd yn 1944 a mynd i fyw ym Mae Colwyn lle y bu farw 12 Awst 1946.

Cyfrannodd Llechid Jones i gylchgronau'r Eglwys yng Nghymru - Yr Haul, Y Llan, etc. Yr oedd yn un o aelodau mwyaf selog Cymdeithas Lyfryddol Cymru a daeth yn un o'r Is-Lywyddion. Ysgrifennodd lawer ar faterion llenyddol a llyfryddol i Gylchgrawn y gymdeithas; gweler enghreifftiau yng Nghyfrolau iii, iv, v a vi, a noder, yn arbennig, ei bum erthygl a deitlir yn ' Studies in Welsh Book Land '. Yr oedd yn llyfryddwr gofalus a chynullodd lyfrgell breifat dda; aeth enghreifftiau o'i lyfrau a'i lawysgrifau i Lyfrgell U.C.N.W., Bangor, a rhai i'r Llyfrgell Genedlaethol. Efallai mai ei waith pwysicaf ar gyfer yr eisteddfod genedlaethol oedd traethawd (1933) ar hanes y Pabyddion yng Nghymru yn yr ail-ganrif-ar-bymtheg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.