Ganwyd yn 30 Cotton Row, Tai-bach, Morgannwg, 19 Chwefror 1855, mab Evan a Catherine Jones. Codwyd ef yn eglwys y Dyffryn lle clywodd hen gewri'r pulpud ym Morgannwg. Addysgwyd ef yn Nhrefeca, ac fe'i hordeiniwyd yn sasiwn Aberystwyth, 1887. Bu'n weinidog yn Abergwaun; Llandeilo Fawr (am ddau dymor), Capel Newydd, Llanelli; a Phenuel, Pont-y-pridd. Treuliodd ei flynyddoedd olaf ym Mhorth-cawl, a bu farw 24 Medi 1945. Pregethwr ydoedd yn anad dim, yn olyniaeth hen bregethwyr Morgannwg. Yr oedd yn llithrig ei barabl, yn ddramatig ei arddull, ac yn chwim ei feddwl. Yr oedd hen eirfa tafodiaith Morgannwg yn fyw ar ei fin, a dotiai'r werin arno. Pregethodd lawer ym mhrif wyliau ei Gyfundeb am gyfnod maith, ac edrychid arno fel yr olaf o farwniaid y pulpud Methodistaidd yn y de. Cyhoeddwyd cyfrol fechan o'i bregethau, ynghyd â rhai emynau, yn 1948.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.