Ganwyd 8 Medi 1865, yn Strata Florida, ger Pontrhydfendigaid, Sir Aberteifi. Addysgwyd yn ysgol y pentref, a bu'n athro yno am gyfnod ac yng Ngoginan, Sir Aberteifi. Fel myfyriwr yng ngholegau'r brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd, paratôdd ar gyfer gweinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd ond yn ddiweddarach daeth yn weinidog ar eglwysi Undodaidd yn Abertawe (1899-1906), yn Wellington, N.Z. (1906-10), yn Islington (1910-15), ac ym Mryste (1915-33). Yn ystod ei weinidogaeth yn Abertawe astudiodd am dymor yn Jena, lle y dylanwadodd Rudolf Eucken yn ddirfawr arno. Gydag amser cydnabuwyd ef fel esboniwr a chefnogwr blaenaf dysgeidiaeth Eucken, sy'n ceisio gwrthbrofi pob dehongliad materol o hanes a phwysleisio realiti bywyd ysbrydol hollgyffredinol fel yr unig allwedd i 'anfodlonrwydd dwyfol' a datblygiad moesol dyn; ac nid yw ei athroniaeth ef ei hun ond ymgais i egluro a datblygu ymhellach y duedd idealyddol o feddwl a geir yn ' Actifiaeth ' Eucken. Cynnwys ei gyhoeddiadau gyfieithiadau o rai o brif weithiau ac amryw esboniadau ar athroniaeth gyffredinol Eucken (gweler rhestr yn Who's Who); yn eu plith ceir Nature, Thought and Personal Experience (1926); The Reality of the Idea of God (1929); Contemporary Thought of Germany (2 cyf. 1930). Yr oedd hefyd yn olygydd y Library of Philosophy and Religion a'r Library of Contemporary Thought. Yr oedd yn M.A. (Bristol) a Ph.D. (Jena). Priododd, 1892, Helen Clarke, Northampton. Bu farw 12 Mehefin 1946 a chladdwyd yn Torquay, lle yr ymddeolodd yn 1933.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.