Ganwyd 7 Ebrill 1866, trydydd mab Francis Hayward Joyce, ficer Harrow-on-the-Hill. Cafodd ei addysg yn ysgol Harrow, ac enillodd ysgoloriaeth yng ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y ddau arholiad yn y clasuron (1886 a 1888); cymerodd ei B.A. 1888, M.A. 1892, B.D. 1904, a D.D. 1909. Bu'n astudio yn yr Almaen, ac ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1892 gan yr esgob Lewis o Landâf. O 1892 hyd 1896 bu'n is-warden coleg Mihangel Sant yn Aberdâr, gan dderbyn urddau offeiriad yn 1893. Yn 1897 aeth i Ben-ar-lag yn warden llyfrgell S. Deiniol, a bu yno hyd 1915, pryd y penodwyd ef yn brifathro coleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Bu'n ganon yn eglwys gadeiriol Llanelwy, 1907-14, ac yn ganghellor 1914-27. Ar ôl blwyddyn yn arch-ddiacon Tyddewi, cysegrwyd ef yn esgob Mynwy 30 Tachwedd 1928; ymddeolodd yn 1940, a bu farw yn Ninbych-y-Pysgod 22 Gorffennaf 1942. Claddwyd ef yno.
Cymerodd ran flaenllaw ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru, a gofynnwyd yn fynych am ei gyngor ym myd addysgol y genedl. Bu'n ddirprwy-ganghellor Prifysgol Cymru o 1934 hyd 1941, ac yn llywydd Ysgol Feddygol Cymru o 1931 hyd 1937. Derbyniodd radd Ll.D. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Cymru yn 1937. Cyhoeddodd The Inspiration of Prophecy yn 1910; ac y mae cyfraniadau o'i waith yn Hastings ' Encyclopaedia of Religion and Ethics, &c.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.