LEWIS, ALUN (1915 - 1944), bardd

Enw: Alun Lewis
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1944
Priod: Gweno Mererid Lewis (née Ellis)
Rhiant: Gwladys Elizabeth Lewis (née Evans)
Rhiant: Thomas John Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Gwyn Jones

Ganwyd 1 Gorffennaf 1915 yn Aberdâr, mab Thomas John Lewis, ysgolfeistr, a Gwladys Elizabeth (née Evans). Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Glynhafod, 1920-26, ysgol ramadeg y Bont-faen, 1926-32, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1932-35 (B.A., gydag anrhydedd mewn hanes), Prifysgol Manceinion, 1935-37 (M.A. ar ôl arbenigo yn hanes y canol oesoedd), a thrachefn yn Aberystwyth, 1937-38. Bu'n athro am gyfnod yn ysgol Lewis, Pengam, eithr ymunodd â'r fyddin ym mis Mai 1940 heb aros am ei alw. Yr oedd wedi dechrau ysgrifennu i gyfnodolion llenyddol yn 1938; yn 1940-41 yr oedd yn un o gychwynwyr antur y 'Caseg Broadsheets'. Ar 5 Gorffennaf 1941 priododd Gweno Ellis, Aberystwyth. Y flwyddyn honno ymddangosodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Raiders' Dawn ; yn 1942 cafwyd cyfrol o ystorïau byrion, The Last Inspection. Gwnaethpwyd ef yn swyddog yn y fyddin ym mis Hydref 1941 a'r flwyddyn wedyn aeth i'r India. Ar 5 Mawrth 1944, ac yntau yn lifftenant yn chweched bataliwn y South Wales Borderers, bu farw yng ngwasanaeth ei wlad ar y ffrynt yn Arakan. Cyhoeddwyd ail gyfrol o farddoniaeth, Ha, ha! Among the Trumpets, wedi ei farw; cafwyd yn 1946 ddetholiad o'i lythyrau at ei rieni a'i wraig, Letters from India; cyhoeddwyd hefyd (1948) ystorïau na chasglwyd mohonynt cyn hynny ynghyd ag ad-argraffiad o'r llythyrau o'r India yn In the Green Tree. Ni bu iddo ef a'i wraig blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.