Ganwyd 6 Ionawr 1880 yn Nanty Mines, Llangurig, mab Maurice ac Elizabeth Lewis. Cafodd ei addysg yng Nghroesoswallt, Llanidloes, Coleg Aberystwyth, ac Ysgol Economeg Prifysgol Llundain. Apwyntiwyd ef yn 1910 yn ddarlithydd cynorthwyol yn hanes Cymru yng ngholeg Aberystwyth, ac yn athro economeg yn 1912; yn 1930 gwahoddwyd ef i lenwi cadair newydd - cadair Syr John Williams - yn hanes Cymru. Bu farw 7 Ionawr 1942. Yn 1925 priododd Elizabeth Thomas, a fu farw ym mis Rhagfyr 1942.
Enillodd radd D.Litt. (Cymru) a D.Sc. (Llundain). Yr oedd yn arloeswr yn hanes gwledig a chymdeithasol Cymru, a chyhoeddodd amryw lyfrau ar y gwaith hwn yn gynnar yn ei yrfa. Yn 1912 cyhoeddodd Mediaeval Boroughs of Snowdonia sydd hyd heddiw yn llyfr safonol, ac un a agorodd y ffordd i waith mwy diweddar ar ddatblygiad y fwrdeisdref yng Nghymru. Ychydig flynyddoedd cyn hyn ysgrifennodd ' Decay of Tribalism in North Wales ' (Trans. Cymm. 1902-3) - astudiaeth argraffiadol a oedd yn dangos cryn fesur o weledigaeth, a hefyd amryw ysgrifau ar hanes masnach yng Nghymru (Cymm., xiv., Trans. R.H.S., xvii, 1903), a oedd yn baratoad i'r gwaith pwysig a gyflawnodd bellach ymlaen, sef Welsh Port Books (Cymm. Rec. Ser. xii, 1927).
Er na chyflawnodd Lewis - oherwydd pwysau trymion ei ddyletswyddau academaidd - holl addewid ei ddyddiau cynnar, gwnaeth lawer, tra oedd yn athro economeg, i ddeffro a hyrwyddo diddordeb cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o fyfyrwyr yn hanes eu gwlad.
Yn 1930 ymgymerodd yn gyfan gwbl â gwaith ymchwil, a gwariodd bron ei holl amser yn paratoi calendrau o lawysgrifau. Er na chafodd amser i gwpláu ei gynlluniau, cyhoeddwyd dau galendr o'i eiddo - yr ail ar ôl ei farw - sef Early Chancery Proceedings (Caerdydd, 1937) a Augmentations Proceedings (Caerdydd, 1950). Ceir hefyd destunau hanesyddol gwerthfawr ganddo mewn gwahanol gyfrolau o Bulletin of the Board of Celtic Studies a West Wales Historical Records.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.