Ganwyd yn Llaethdy, Cilcennin, Sir Aberteifi, 24 Awst 1870, yn fab i David Lewis, ffermwr, a Jane ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn gyntaf mewn ysgol breifat yn Llannon, Ceredigion, a gedwid gan y Parchedig J. Davies (yn ddiweddarach Ficer Clynnog Fawr yn Arfon) ac yna yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Enillodd yno ysgoloriaeth mewn Cymraeg a gwobr mewn Groeg, a chymryd gradd B.A. yn y flwyddyn 1896. Yn Rhagfyr yr un flwyddyn gwnaed ef yn ddiacon gan yr esgob Richard Lewis o Lan-daf a'i drwyddedu i guradiaeth Ynyshir yn y Rhondda Fach; cafodd urddau offeiriad yn 1897, ac yn yr un flwyddyn aeth yn gurad i Gwm-parc a Threorci. Oddi yno aeth i Lanbryn-mair yn 1900, ac yna i Fallwyd yn 1905. Yn 1906 cafodd guradiaeth Llanllechid, ac yn 1915 penodwyd ef yn rheithor Llansadwrn, Môn. Gwnaed ef yn ddeon gwlad Tindaethwy yn 1937. Bu yn Llansadwrn hyd ei farwolaeth, 19 Hydref 1948, a chladdwyd ef ym mynwent y plwyf. Coffeir ef gan gysegr-lamp yn eglwys Llansadwrn.
Ysgrifennai'n gyson i'r cyfnodolion Cymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen, ac am flynyddoedd lawer bu'n olygydd ar golofn farddol y Llan, wythnosolyn yr Eglwys yng Nghymru. Ceid ei gynhyrchion hefyd mewn cyhoeddiadau eglwysig eraill, megis Yr Haul, y Cyfaill Eglwysig, a Perl y Plant, a hefyd yn Cymru a'r Geninen. Dewiswyd ef yn un o olygyddion geiriau Emynau'r Eglwys, a gyhoeddwyd yn 1942, ac yn y llyfr hwnnw ceir nifer o emynau o'i waith ef a'i gyfieithiad, ynghyd â rhai carolau. Nid oes arbenigrwydd mawr yn ei ganu, ond y mae'n swynol a llithrig, ac yn nodweddiadol o'i gyfnod. Gelwid yn fynych am ei wasanaeth fel beirniad mewn eisteddfodau lleol; yr oedd yn bregethwr melys a derbyniol, ac yn gymeriad hoffus. Priododd Sarah Jane Ellis, Llanllechid, Arfon, a bu iddynt fab a merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.