Ganwyd 5 Ebrill 1872, ym Mhontlotyn, sir Fynwy, mab James a Margaret Lewis. Aeth i ysgol Lewis, Pengam, ac wedi hynny i swyddfa ewythr iddo a oedd yn ben ar y ' Bute Works Supply Co. ', Caerdydd. Bu yn y busnes hwnnw 21 mlynedd gan ddyfod yn bartner a phan wnaethpwyd y cwmni yn un 'cyfyngedig', yn gyfarwyddwr ac yn ysgrifennydd. Cynullodd gyfres o dablau a gyhoeddwyd (yn Y Fenni, 1899) o dan y teitl - Redemption Hire, Deferred Purchase, and Easy Payment Tables; mabwysiadwyd y rhai hyn fel safon gan y ' Wagon Building and Financing Corporation '. Yn 1911 sefydlodd gwmni' Henry G. Lewis and Co., Ltd. ' rolling-stock proprietors ' ac yn ystod Rhyfel 1914-18 bu'n cyflenwi'r Mor-lys â gwageni i gario glo at bwrpas llongau rhyfel; ar ddiwedd y Rhyfel yr oedd yn un o'r hurwyr-wageni mwyaf ym Mhrydain. Yr oedd ei haelioni yn cydgerdded â'i lwyddiant. Yn 1927 prynodd Wern-fawr, Harlech, a fuasai'n gartref George Davidson, ac fe'i cyflwynodd yn rhodd i gychwynwyr Coleg Harlech. Prynodd hefyd a chyflwynodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, lyfrgell Geltaidd E. C. Quiggin. Bu'n uchel siryf Morgannwg, 1920-21, ac yr oedd yn aelod o Lys a Chyngor y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn drysorydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Rhoddodd Prifysgol Cymru iddo radd Ll.D. ('er anrhydedd') yn 1928. Priododd, yn 1897, Ann, merch Jenkin Llewellyn, Penarth, Sir Forgannwg, a bu iddynt wyth o blant. Ym Mhorthceri, gerllaw Barri, yr oedd eu cartref am flynyddoedd lawer; ac yno y bu Lewis farw ar 9 Chwefror 1945.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.