LEWIS, Syr THOMAS (1881 - 1945), meddyg

Enw: Thomas Lewis
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1945
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Owen Elias Roberts

Ganwyd 26 Rhagfyr 1881, yn drydydd o bum plentyn Henry Lewis, Y.H., peiriannydd mwynfeydd o Dŷnant, Glyn Taf, ger Caerdydd. Derbyniodd ei addysg gartref, ar wahân i gyfnod byr yng ngholeg Clifton; yng ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yn ysbyty Coleg Y Brifysgol, Llundain. Yr oedd yn arddangoswr mewn anatomeg a ffisioleg yng Nghaerdydd, a graddiodd yn B.Sc. (Cymru) gydag anrhydedd yn 1902. Yn 1904 graddiodd yn feddyg gan ennill Medal y Brifysgol a medalau ei goleg, a D.Sc. (Cymru) yn 1905. Penodwyd ef yn feddyg cynorthwyol, ac wedyn yn feddyg ymgynghorol, i ysbyty Coleg y Brifysgol. Bu'n gyfarwyddwr Adran Ymchwil Glinigol i'r Pwyllgor (Cyngor yn awr) Ymchwil Feddygol 1916, ac yn gynghorydd ar anhwylderau'r galon i'r Swyddfa Ryfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a meddyg mygedol i'r Weinyddiaeth Bensiynau. Daeth yn F.R.C.P. yn 1913, ac yn F.R.S. yn 1918. Traddododd Ddarlith Croon i'r gymdeithas honno yn 1917 a rhoddwyd iddo'i Medal Frenhinol yn 1927, Medal Copley 1941, a gwobr Conway Evans 1944. Bu'n is-lywydd y gymdeithas 1943-1945. Gwnaed ef yn C.B.E. yn 1920 ac yn Farchog yn 1921. Traddododd Ddarlith Goffa Harvey yn 1933. Gwrthododd alwad i gadair Athro Brenhinol mewn Meddygaeth yng Nghaergrawnt yn 1932. Yr oedd iddo enwogrwydd byd-lydan mewn ffisioleg a meddygaeth glinigol. Cafodd raddau anrhydeddus gan Brifysgolion Cymru, Lerpwl, Sheffield, Birmingham, a Michigan. Yr oedd yn aelod neu'n gymrawd o nifer o gymdeithasau a phrifysgolion tramor. Cyfrifid ef yn un o'r ymchwilwyr amlycaf i weithgareddau'r galon ddynol, ac yn un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r electrocardiograff. Ysgrifennodd tua 240 o erthyglau a deuddeg o lyfrau ar galon, a gwaed-lestri a phoen, gweithiau a welodd nifer o argraffiadau ac a gyfieithiwyd i amryw o ieithoedd y cyfandir. Sefydlodd a golygodd y Cylchgrawn Heart yn 1909; sefydlodd a golygodd gylchgrawn adar. Priododd 1916, Lorna Treharne James, Merthyr, a ganed iddynt dri o blant, dwy eneth a bachgen. Bu farw yn Rickmansworth, 17 Mawrth 1945, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llangasty Tal-y-llyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.