Ganwyd 30 Ebrill 1883 yn Sgiwen, Morgannwg, yn fab i Morgan de Lloyd, cynrychiolydd cwmni yswirio. Symudodd y teulu sawl gwaith cyn ymsefydlu ym Mhenparcau, Aberystwyth; bu'r mab yn Ysgol Fwrdd Pentre-poeth tra buont yn nhref Caerfyrddin. O'i blentyndod cynnar yr oedd yn amlwg fod ganddo ddawn arbennig fel cerddor. Bu J. S. Curwen yng Nghaerfyrddin yn 1894 yng Nghynhadledd Tonic-solffawyr De Cymru, ac yn y ddwy flynedd wedyn aeth a'r bachgen gydag ef ar deithiau drwy Loegr, Sgotland, ac Iwerddon, i ddangos gwerthoedd anghyffredin y nodiant.
Enillodd ysgoloriaeth sir Aberteifi i goleg y Brifysgol, Aberystwyth, o ysgol sir Aberystwyth (1896-99). Graddiodd yn B.A. (Anrhyd. Hanes, 1903) ac ymhen dwy flynedd, drwy gymryd y B.Mus., efe oedd efrydydd cyntaf Prifysgol Cymru i raddio felly. Er mwyn cefnogi'r ddawn amlwg oedd ynddo casglodd Pwyllgor (â'r Prifathro T. F. Roberts yn Gadeirydd) £100 er mwyn i de Lloyd gael treulio'r flwyddyn 1906-7 fel myfyriwr yn Leipzig.
Bu'n athro mewn ysgolion yn Woolwich 1908-11) a Llanelli (1911-19) a graddiodd ym Mhrifysgol Dulyn yn B.Mus. a Mus.Doc. yn 1913 a 1915. Priododd, 1911, Lilian Morgan, Aberystwyth. Byddai'n gwasanaethu'n aml fel beirniad mewn eisteddfodau cenedlaethol.
Dychwelodd i Aberystwyth yn 1919 fel darlithydd yn yr adran gerdd pan ddaeth Dr. H. Walford Davies yno i lanw'r gadair wag. Taflodd aml alwadau ar amser yr Athro o'r tu allan i'r coleg lawer o'r gwaith ar ysgwyddau'r darlithydd, ac felly ef oedd yn gyfrifol am gymdeithas gorawl ac am gerddorfa'r coleg a'r cyngherddau wythnosol. Gwnaed ef yn athro yr adran yn 1926. Llanwodd y swydd hyd ei farw 20 Awst 1948.
Cyfansoddodd lawer a threfnu llawer o waith cerddorion ereill. Ymysg ei lu gweithiau y mae ' Gwenllian ' (opera) (1924), ' Tir na n'Og ' (cân delynegol), Cân a Moliant (gyda Syr Henry Haydn Jones yn olygydd cyffredinol), Forty Welsh Traditional Tunes (cyh. gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion), ' Saith o ganeuon enwog Brahms ', a ' Requiem '.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.