Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 13 Chwefror 1861, yng Nghaerfyrddin, mab y Parch. W. Morgan, gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro yng ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, a'i wraig Margaret, merch Thomas Rees, Capel Tyddist, Llandeilo. Cafodd ei addysg yng ngholeg Tattenhall, swydd Stafford, a choleg y Drindod, Caergrawnt. Daeth yn ynad heddwch yn siroedd Caerfyrddin, Penfro, a Morgannwg; bu'n aelod seneddol (Rhyddfrydwr) dros orllewin Sir Gaerfyrddin, 1889-1910, ac yn gofiadur Abertawe 1909-11. Ysgrifennodd gofiant i'w dad (Llundain, 1886) a bu'n noddwr i rai o achosion crefyddol Caerfyrddin - eglwys Heol Undeb (capel ei dad) yn eu plith. Bu farw 17 Mai 1944, a chladdwyd ef ym mynwent capel Heol Undeb, Caerfyrddin.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.