MORGAN, ALFRED PHILLIPS (1857 - 1942), cerddor

Enw: Alfred Phillips Morgan
Dyddiad geni: 1857
Dyddiad marw: 1942
Rhiant: Levia Phillips Morgan
Rhiant: David Price Phillips Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 21 Mai 1857 yn Rhymni, mab David Price a Levia Phillips Morgan. Symudodd y teulu i fyw i Bwllgwilym ger Cefn-bedd-Llywelyn, ac yn ddiweddarach i Lanfair-ym-Muallt. Addysgwyd ef yn Ysgol Waddol y dref honno, ac wedi hynny bu am gwrs o addysg gerddorol yng ngholeg Aberystwyth o dan Dr. Joseph Parry a chafodd wersi gan Goleg y Tonic Solffa. Enillodd lawer o wobrwyon am gyfansoddi tonau, ac am ganu (bariton) yn yr eisteddfodau. Penodwyd ef yn arweinydd Cymdeithas Gorawl Buallt, ac enillodd y côr yn eisteddfodau cenedlaethol Lerpwl, 1897, a Blaenau Ffestiniog, 1898, ac mewn eisteddfodau pwysig eraill. Cyfansoddodd gerddoriaeth i'r ' Te Deum ' a ' Gweddi'r Arglwydd ', a bu ei donau, ' Treflys ' a ' Dyfed ' yn boblogaidd, a phery ei dôn ' Cefn-bedd-Llewelyn ' i gael ei chanu, a'i chynnwys yn yr holl gasgliadau. Ceir anthemau a rhangan o'i waith yn Y Cerddor. Dewiswyd ef yn organydd, côrfeistr, a blaenor yn eglwys Bresbyteraidd Alpha, Llanfair-ym-Muallt, a chyflawnodd y swydd hyd ei farwolaeth. O dan ei arweiniad perfformiodd y côr amryw o gyfanweithiau'r meistri. Yr oedd yn aelod o bwyllgor unedig y Church Hymnary, ac o Bwyllgor Addysg Sir Frycheiniog. Bu farw 8 Chwefror 1942, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfair-ym-Muallt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.