OWEN, MORRIS BRYNLLWYN (1875 - 1949), athro coleg, hanesydd eglwysig, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr

Enw: Morris Brynllwyn Owen
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1949
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro coleg, hanesydd eglwysig, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd 15 Mawrth, 1875, yn y Crymllwyn Bach, plwy Aber-erch, Sir Gaernarfon; ar ôl treulio peth amser fel gwehydd yng Nghymru a Lloegr, aeth i Academi Holt, ger Wrexham, ac oddiyno yn 1897 derbyniwyd ef yn aelod o goleg y Bedyddwyr ym Mangor, a myfyriwr hefyd yng ngholeg y Brifysgol. Graddiodd yn B.A. yn 1903, a chafodd ei ordeinio yn 1902 yn efrydydd-weinidog yn Llandegfan. Aeth am ei gwrs diwinyddol i goleg Presbyteraidd Caerfyrddin, a graddio'n B.D. yn 1906. Am ran o 1906-7 bu'n weinidog yn Llaneurwg ger Caerdydd, ond cyn diwedd 1907 gwahoddwyd ef i fod yn athro yn ei hen goleg yng Nghaerfyrddin, gan broffesu Athroniaeth Crefydd hyd 1912 a Hanes yr Eglwys o hynny hyd ei farw, testun y cafodd ei wybodaeth o'r Tadau Groeg a Lladin lawn gyfle. Ef hefyd oedd llyfrgellydd y Coleg; yn ychwanegol, bugeiliai (er 1925) eglwysi'r Bedyddwyr yn y Felin-gwm a'r Felin-wen. Bu'n olygydd Seren Cymru, 1930-33. Gŵr tawedog, myfyriol, a swil ydoedd, ond daeth yn sydyn amlwg yn Undeb Caernarfon, 1937, cyfarfod y Gymdeithas Hanes; rhoddai anerchiad yno ar ' Christmas Evans a'i le yn ei gyfnod ', llawn hiwmor sych a dangos meistrolaeth drwyadl ar y cefndir. Argraffwyd hwn yn Nhrafodion y gymdeithas am 1938, a'i ddilyn gan ysgrif yn Nhrafodion 1945-47 ar ' Fedyddwyr dair canrif yn ôl ', astudiaeth fanwl o weithiau Thomas Edwards, awdur y Gangræna. Yn rhifynnau cyntaf Seren Gomer am 1949, nid oedd ganddo ddim llai nag wyth o gyfraniadau, y rhai trymaf ohonynt yn trin gwahanol agweddau ar hanes Bedyddwyr cynnar Lloegr a Chymru. Cyn diwedd yr un flwyddyn yr oedd pump ysgrif goffa amdano ef ei hun yn Seren Gomer, gwaith ei gydathrawon, hen ddisgyblion iddo, ac un cydfyfyriwr gynt, y Parch A. J. George. Bu farw 30 Gorffennaf 1949.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.