Cywiriadau

RHYS, EDWARD PROSSER (1901 - 1945), newyddiadurwr, llenor, a chyhoeddwr

Enw: Edward Prosser Rhys
Dyddiad geni: 1901
Dyddiad marw: 1945
Priod: Mary Prudence Rhys (née Hughes)
Rhiant: Elizabeth Rees
Rhiant: David Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr, llenor, a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Katherine Williams

Ganwyd 4 Mawrth 1901 yn ‘Pentre’, Bethel, Mynydd Bach, sir Aberteifi, mab Elisabeth a David Rees; symudodd y teulu wedi hynny i'r Morfa Du. Mynychai Ysgol Cofadail pan oedd yn fachgen, ac aeth i ysgol Ardwyn, Aberystwyth, yn 1913. Rhyw flwyddyn neu flwyddyn a hanner y bu yno gan i'w iechyd dorri i lawr, a bu gartref am tua thair blynedd yn wael. Wedi iddo wella aeth i weithio i swyddfa'r Welsh Gazette, Aberystwyth, ac yn 1919 aeth i Gaernarfon i swyddfa'r Herald Cymraeg. Dychwelodd i Aberystwyth yn 1921, a phan aeth Y Faner o Ddinbych i Aberystwyth yn 1923, penodwyd ef yn olygydd iddi, a bu'n olygydd Y Faner hyd ei farw ar 6 Chwefror 1945.

Dechreuodd ymhel â barddoniaeth yn gynnar a chyfrannodd gerddi i Gymru'r Plant pan yn ieuanc iawn. Yn 1924, yn eisteddfod genedlaethol Pont-y-pŵl, enillodd y goron ar ei bryddest ‘Atgof’, pryddest anghyffredin o ran ffurf a chynnwys, a phryddest a greodd dipyn o gynnwrf. Yn 1928 priododd Mary Prudence Hughes, Aberystwyth, a ganed iddynt un ferch. Yn y flwyddyn 1928 dechreuodd gyhoeddi llyfrau a ffurfio Gwasg Aberystwyth, gwasg a gynyddodd o flwyddyn i flwyddyn. Ffurfiodd y ‘Clwb Llyfrau Cymraeg’, a bu yntau'n llwyddiant.

Yn 1923, cyhoeddodd ef a J. T. Jones gyfrol o farddoniaeth ar y cŷd, sef Gwaed Ifanc (Hughes a'i Fab), ac ni chyhoeddwyd dim o'i farddoniaeth wedyn ag eithrio mewn cylchgronau ac ar y radio hyd 1950, pan gyhoeddwyd Cerddi Prosser Rhys gan Wasg Gee. Er ei fod yn fardd da, efallai mai fel golygydd a chyhoeddwr y bydd ei enw byw. Yr oedd yn aelod o Blaid Genedlaethol Cymru o'r cychwyn, a buan y dangosodd ei ysbryd cenedlaethol ar dudalennau'r Faner. Ond ni chafodd fod yn rhydd a dilyfethair yn ei ysgrifau hyd oni symudwyd Y Faner yn ôl i'w hen gartref yn Ninbych yn Ionawr 1939. Yn ei golofn wythnosol, ‘Led-led Cymru’, yn Y Faner, daeth yn gyfaill i bobl nad adwaenai ef fel arall. Dyn cefn gwlad ydoedd, a phan ysgrifennai am gymeriadau a llenorion cefn gwlad yr oedd ar ei orau.

Fel cyhoeddwr, denodd rai o brif lenorion Cymru i gyhoeddi eu llyfrau drwy ei wasg. Cyhoeddodd lyfrau ysgol hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

RHYS, EDWARD PROSSER (Bywg. 2, 48-9)

Pentremynydd oedd enw'r tŷ y ganwyd ef ynddo yn ardal Bethel, neu Trefenter fel y'i gelwir heddiw. Gof o deulu o ofaint oedd ei dad, David Rees. Ar ei briodas y mabwysiadodd y mab y ffurf Gymraeg, Rhys, ar ei gyfenw. Nid yn 1913 ond yn Hydref 1914 yr aeth i ysgol Ardwyn, neu yn iaith llyfr lòg ysgol Cofadail, ‘Aberystwyth County School’.

Awdur

  • Evan David Jones, (1903 - 1987), Aberystwyth

    Ffynonellau

  • Gw. Y Traethodydd, Hyd 1977, 181-5, am fanylion defnyddiol am ei gefndir.
  • [Gw. Rhisiart Hincks, Cofiant E. Prosser Rhys, 1901-1945 ( Llandysul 1980 ) (1980) am ymdriniaeth lawn].

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau