Ganwyd 13 Mai 1851 yng Nghaerfyrddin yn fab i J. N. Roberts a Margaret (née Jones), ei wraig. Addysgwyd ef mewn ysgolion preifat, ac yn 1872 penodwyd ef yn glerc ar staff yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Yn 1879 gwnaed ef yn fargyfreithiwr o'r Inner Temple. Dyrchafwyd ef i fod yn geidwad cynorthwyol yn yr Archifdy Gwladol yn 1903, ac o 1912 hyd nes iddo ymddeol yn 1916 ef oedd y prif geidwad cynorthwyol a hefyd ysgrifennydd y sefydliad. O 1900 hyd 1919 gwasanaethai hefyd fel archwiliwr (cyfreithiol) yn unol ag amodau Deddf yr Archifdy Gwladol, 1887. Ef oedd ysgrifennydd yr Historical MSS Commission o 1903 hyd 1912, ac yn 1912 gwnaed ef yn aelod o'r comisiwn. Golygodd The Court Rolls of the Lordship of Ruthin … of the Reign of King Edward the First (Llundain, 1893); A Calendar of Home Office Papers of the Reign of George III, vol. iii, 1770-1772 (Llundain, 1881), vol. iv, 1773-1775 (Llundain, 1899); a A Calendar of the Inner Temple Records, vol. iv (Llundain, 1933), vol. v. (Llundain, 1936). Bu iddo ran amlwg yn y gwaith o olygu A Calendar of the MSS. of the Marquis of Salisbury, vols. 4-12, a gyhoeddwyd gan yr Historical MSS Commission, ac ef hefyd oedd awdur The Episcopal Registers of the Diocese of St. Davids 1397 to 1518, vol. iii, A Study of the Published Registers (Llundain, 1920). Cyhoeddodd ddwy erthygl yn ymdrin â chofysgrifau yn ymwneud â Chymru, sef ' The Public Records relating to Wales ' (Cymm., x, 1889), a ' Welsh Records and a Record Office for Wales ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1915-6). Yn 1884 priodasai Agnes, merch Samuel Hallam, a bu iddynt un mab a thair merch. Bu farw 2 Ebrill 1943, yn Orford, Woodbridge.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.