Ganwyd 12 Chwefror 1879 yn Weston Rhyn, ger Croesoswallt, mab Evan Thomas a Hephsibah Roberts. Yn 1890 symudodd y rhieni i Ysbyty Ifan, sir Ddinbych i gadw siop. Cafodd ei addysg yn ysgol sir, Llanrwst, ac wedi hynny yn y Salop School, Oswestry, ysgol sir Porthmadog, a choleg y Brifysgol, Bangor. Wedi ei gwrs addysg prentisiwyd ef yn swyddfa breifat ystad y milwriad Barnes yn y Waun, ac yno y dechreuodd astudio cerddoriaeth a chanu'r piano o dan D. Knight Bearnard. Dechreuodd gyfansoddi, a gelwid am ei wasanaeth fel cyfeilydd. Yn 1902 symudodd i fyw i Landudno, a phenodwyd ef yn organydd capel y Bedyddwyr Saesneg, a phenderfynodd roddi ei holl amser i gerddoriaeth. Cyfansoddodd y caneuon ' Y Mab Afradlon ' a'r ' Good Shepherd ', a darn i gôr meibion, ' Brwydr y Baltic ' a ddewiswyd yn un o'r darnau praw yn eisteddfod genedlaethol Bae Colwyn, 1910. Perfformiwyd ei amrywion ar y dôn 'Bangor' gan Gerddorfa'r Pier, Llandudno. Penodwyd ef yn organydd capel Saesneg Castle Square, Caernarfon, a symudodd yno i fyw. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn organydd a chôr-feistr capel Moreia (M.C.), Caernarfon. Cyfansoddodd y caneuon ' Y Nefoedd ', ' Pistyll y Llan ', a ' Cymru Lân ' ac eraill a ddaeth yn boblogaidd. Ceir y dôn ' Pennant ' o'i waith yn Llyfr Tonau y Methodistiaid Calfinaidd, 1929, ac y mae amryw eraill yn netholiadau cymanfaoedd canu. Beirniadai yn Lerpwl ym mis Mehefin 1948, cymerwyd ef yn wael, ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Wrecsam, a bu farw yno 21 Mehefin 1948; claddwyd ef ym mynwent Eglwys Ysbyty Ifan 25 Mehefin. Bu'n briod ddwywaith, ei ail wraig oedd y gantores Leila Megane.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.