Ganwyd c. 1853 - nid oes sicrwydd hollol yngylch y dyddiad na'r lle. Mabwysiadwyd ef gan Robert a Beti Rowland, a oedd yn byw ym mhentref Tyn-y-cefn, yn agos i Gorwen, ac wedi iddo fod am ychydig yn yr ysgol prentisiwyd ef yn deiliwr. Bu yn was bach yn Aber Artro, Ardudwy, ac yn dilyn ei alwedigaeth fel teiliwr yn yr Amwythig ac yn Rhosymedre; y mae'n debyg iddo fod mewn rhai mannau eraill hefyd yn y cyfnod hwnnw, ond gwyddys iddo fyned i ysgol Holt pan oedd tuag 20 oed. Dechreuodd bregethu yn 1873 ac aeth i goleg y Bala yn 1874. Bu'n athro ysgol am ychydig yn ystod ei dymor yn y Bala, a chyhoeddodd ei lyfr cyntaf, llyfr o farddoniaeth, o dan yr enw Y Blodeuglwm , yn 1877. O'r Bala aeth i Gaernarfon, gan ymuno â staff Yr Herald Cymraeg; yn ddiweddarach bu ar staff Y Genedl Gymreig yn yr un dref - yn olygydd yr olaf o 1881 hyd 1884. Bu hefyd yn cynorthwyo'r Parch. Evan Jones, Caernarfon, gyda'r Amseroedd. Ordeiniwyd ef yn 1887 ac yn 1890 galwyd ef yn fugail ar eglwys Beulah, Caernarfon, lle y bu hyd ei ymneilltuad yn 1933. Yn 1912 dilynodd y Parch. Thomas Levi fel golygydd Trysorfa'r Plant, swydd a ddaliodd hyd 1932. Yn y flwyddyn honno cydnabuwyd ei wasanaeth fel llenor gyda phensiwn gwladol. Fel llenor a bardd yr oedd yn adnabyddus trwy Gymru gyfan; yr oedd yn awdur dros 20 o lyfrau, casgliadau o ysgrifau ar lyfrau, natur a phobl, gan mwyaf, gydag ambell stori a llyfr o farddoniaeth. Y mae'n debyg mai ei lyfrau gorau ydyw Y Pentref Gwyn, cyfres o benodau am ddyddiau bore yn Nhyn-y-cefn, a Y Ffenestri Aur, casgliad o ysgrifau. Yr oedd ganddo ddawn i ddisgrifio, hiwmor, a medr i fod yn gyrhaeddgar iawn pan fynnai. Prin y gwnaeth chwarae teg ag ef ei hun fel bardd, ond meddai ddawn delynegol ddiamheuol - a dawn dychan. Ysgrifennodd lawer iawn i'r wasg; bu'n gyfrifol am ' Y Golofn Lenyddol ' yn Y Faner o 1904 hyd 1914; bu'n ysgrifennu yn wythnosol i'r Herald Cymraeg yn ystod ei flynyddoedd olaf, ac ysgrifennodd hefyd i'r Goleuad, Y Traethodydd, a'r Geninen. Bu'n golygu ' Bwrdd y Llenor Ieuanc ' yn Y Dinesydd Cymreig. Ni cheisiodd amlygrwydd fel pregethwr, ond yr oedd yn gymaint ar ei ben ei hun fel pregethwr ac fel llenor. Yr oedd yn nodedig am ei arabedd ac erys rhai o'i ddywediadau yn hir ar gof gwlad. Bu farw 21 Tachwedd 1944 yn ei gartref yng Nghaernarfon a chladdwyd ef yng nghladdfa'r dref. Bu ddwywaith yn briod. Nid oedd ganddo blant.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.