SANKEY, JOHN (1866 - 1948; BARWN SANKEY, 1929; IS -IARLL Sankey, o Moreton, 1932), gŵr y gyfraith

Enw: John Sankey
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1948
Rhiant: Catalina Sankey
Rhiant: Thomas Sankey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr y gyfraith
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Moreton, swydd Gaerloyw, 26 Hydref 1866, yn fab i Thomas a Catalina Sankey. Cafodd ei addysg yn ysgol Lancing, Sussex, ac yng ngholeg Iesu, Rhydychen, a galwyd ef yn fargyfreithiwr yn 1892. Daeth yn K.C. yn 1909, yn farnwr yr Uchel Lys yn 1914, ac yn un o arglwyddi'r Llys Apêl yn 1928. Yn 1929 fe'i gwnaed yn Arglwydd Ganghellor yn y Llywodraeth Lafur, a daliodd y swydd hon hyd 1935. Bu'n gadeirydd y comisiwn ar y diwydiant glo, 1919, ac yn aelod o'r gynhadledd ar ddyfodol yr India, a bu galw am ei wasanaeth ar lu o bwyllgorau a chomisiynau, yr addysgol, yn gyfansoddiadol, ac yn gref yddol (gweler y rhestr yn Who was Who, 1941-51). Yr oedd yn eglwyswr teyrngar ac ymroddedig, a bu ganddo gyfran helaeth yn llunio cyfansoddiad a threfniadaeth yr Eglwys yng Nghymru. Etholwyd ef yn gymrodor (er anrhydedd) o'i hen goleg yn Rhydychen, a derbyniodd radd Doethur yn y Cyfreithiau, er anrhydedd, gan Brifysgol Cymru yn 1929. Derbyniodd hefyd raddau er anrhydedd gan Brifysgolion Rhydychen, Caer-grawnt, a Bryste. Bu farw'n ddi-briod yn Llundain, 8 Chwefror 1948, a'i gladdu yn Moreton.

Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr ieuanc yng Nghaerdydd, a daeth i'r amlwg mewn achosion dan y Ddeddf Iawn-dâl i Weithwyr. Enillodd glod mawr am wneuthur ei waith yn gryno ac esbonio pethau dyrys mewn modd eglur. Pan godwyd ef i'r Fainc, gwelwyd ynddo ddynoliaeth eang a mawr sêl dros urddas y gyfraith; pan ddaeth yn ddiweddarach yn Arglwydd Ganghellor gwnaeth gyfraniad nodedig i'r bywyd gwleidyddol drwy ei urddas personol, ei hunan-ddisgyblaeth, a'i gyfeillgarwch. Ond yn anad unpeth cofir amdano fel Eglwyswr teyrngar a Christion diffuant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.