THOMAS, THOMAS JACOB (‘Sarnicol’; 1873 - 1945), athro a bardd

Enw: Thomas Jacob Thomas
Ffugenw: Sarnicol
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1945
Rhiant: Mary Thomas (née Jacob)
Rhiant: David Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd 13 Ebrill 1873 yn ‘Sarnicol’, Capel Cynon, ger Llandysul.

Aeth o ysgol ramadeg y Cei Newydd i goleg y Brifysgol, Aberystwyth, ac enillodd radd B.Sc.. Bu'n athro yn Abertyleri a Merthyr cyn mynd yn bennaeth ysgol uwchradd Mynwent y Crynwyr. Ymneilltuodd yn 1931, a byw yn Aberystwyth hyd ei farwolaeth 2 Rhagfyr 1945; claddwyd ym mynwent Bwlch-y-groes, Llandysul.

Enillodd gadair yr eisteddfod genedlaethol yn y Fenni yn 1913, a gwobrwyon eraill o dro i dro am gyfieithiadau, ysgrifau, telynegion, soned ac englyn. Bu'n un o feirniaid yr awdl yn Llanelli (1930), a Bangor (1943). Yr oedd yn lluniwr epigramau medrus, yn ysgolhaig â diddordeb mewn ystyron geiriau, ac yn llenor graenus a fyddai wrth ei fodd yn disgrifio golygfeydd a chymeriadau ac arferion cyfnod ei febyd yng nghyffiniau Banc Siôn Cwilt. Sgrifennodd lawer i gylchgronau, cyhoeddwyd rhai o'i gerddi mewn casgliadau, a bu llawer o adrodd arnynt.

Cyhoeddwyd o'i law Ar Lan y Môr, a Chaneuon Ereill (1898); Stori Shaci'r Gwas (1906); Breuddwyd a Sylwedd (1909); Amnon (1909); Odlau Môr a Mynydd (1912); Blodau Drain Duon (1935); Storïau ar Gân (1936); Catiau Cwta (1940); Patrymau Gwlad (1943) a Chwedlau Cefn Gwlad (1944).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/