Ganwyd 10 Mawrth 1867 yng Nghaerffili, Morgannwg, mab Thomas James a Jane Thomas. Collodd ei rieni'n ifanc, ac yng ngofal ei fam-gu, mam ei dad, y bu yng nghyfnod ei ysgolia ym Mynyddislwyn a Phontypridd. Wedyn bu yng ngwasanaeth ei dad-cu, James Thomas (1817 - 1901), mab ffarm a ddechreuodd weithio dan ddaear yn chwech oed a mentro sincio pyllau Ynyshir yn drigain. Gadawodd ef y rhan fwyaf o'i eiddo i'w wyr. O dan reolaeth y perchennog newydd bu'r glofeydd yn dra llewyrchus heb nemor anghydfod diwydiannol ynddynt ar hyd y blynyddoedd. Yn 1914 trosglwyddodd ei lofeydd i gwmni'r United National Collieries.
Bu'n gymwynaswr hael i fudiadau dyngarol. Rhoes £100,000 i Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru, dros £20,000 at waddoli gwelyau yn ysbyty frenhinol Caerdydd, £5,000 at yr ymgyrch i ddileu'r darfodedigaeth yng Nghymru, £2,500 i ysbyty genedlaethol Cymru yn rhyfel 1914-18, ac amryw filoedd at ysbytai eraill yng Nghaerdydd, Casnewydd a'r Porth, ynghyda rhoddion lawer at achosion crefyddol.
Bu'n amlwg mewn cylchoedd cyhoeddus ym Morgannwg - yn aelod o'r cyngor sir, yn ynad heddwch a dirprwy raglaw ac yn 1936 yn uchel siryf. Cafodd radd anrhydeddus Doethur yn y Gyfraith gan Brifysgol Cymru yn 1921, a'i ethol yn is-lywydd coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn 1931. Rhoddwyd iddo ryddfraint dinas Caerdydd yn 1915. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog yn 1914 a barwnig yn 1919.
Bu'n aelod o eglwys Annibynnol Saron, Ynys-hir, hyd ddiwedd ei oes, er iddo symud i Gaerdydd i fyw tua 30 mlynedd cyn ei farw. Priododd yn 1917 â Maud Mary, merch yr Henadur George Cooper, Bexhill-on-Sea, ac is-fetron ysbyty frenhinol Caerdydd. Bu farw 3 Ionawr 1945, pan oedd ei fab hynaf yn garcharor rhyfel yn y dwyrain pell, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Caerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.