Ganwyd 8 Medi 1871 yn Llangefni, Môn. O adran coleg y Bala aeth i goleg y Brifysgol, Bangor, a graddio yn 1901. Wedi cwrs yng ngholeg diwinyddol y Bala, ordeiniwyd ef yn 1904, ac aeth yn weinidog ar eglwysi'r Bont-newydd a Phen-y-graig yn Arfon, lle'r arhosodd am agos 30 mlynedd. Bu'n ysgrifennydd Bwrdd Rheolwyr Cartref Bont-newydd i blant amddifaid o 1904 hyd 1945, ac yn un o'i lywodraethwyr hyd ei farwolaeth 5 Ebrill 1950
Cyhoeddodd lyfr o hanes David Livingstone (1912), cofiant David Williams, y Piwritan (1928), a Cartre'r Plant (1951). Enillodd wobr yr eisteddfod genedlaethol am gyfieithu termau cyfreithiol i'r Gymraeg, a bu am flynyddoedd yn olygydd Blwyddiadur a Dyddiadur ei enwad.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.