TREHARNE, BRYCESON (1879 - 1948), cerddor

Enw: Bryceson Treharne
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1948
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd ym Merthyr Tudful. Wedi iddo fod yn yn y Royal College of Music, Llundain, bu'n athro yn adran cerdd coleg Aberystwyth, ac ym Mhrifysgol Adelaide, Awstralia. Dychwelodd i Ewrop yn 1911, bu yng ngharchar Ruhleben, yr Almaen, am gyfnod yn ystod y Rhyfel 1914-1918, ac aeth i'r America c. 1918, a dyfod, c. 1924, yn athro ym Mhrifysgol McGill, Montreal, Canada. Wedi iddo ddychwelyd i'r U.D.A. yn 1928 bu'n olygydd i gwmni cerddorol yn Boston, etc. Drwy'r holl amser yr oedd yn brysur yn cyfansoddi a daeth rhai o'i unawdau'n boblogaidd yng Nghymru, e.e., ' Môr o gân yw Cymru i gyd '. Perfformiwyd gwaith ganddo o'r enw ' The Banshee ' yn eisteddfod genedlaethol 1938. Bu farw 4 Chwefror 1948 yn Long Island, New York.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.