WILLIAMS, JOHN HUW (1871 - 1944), golygydd papur newydd

Enw: John Huw Williams
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1944
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd papur newydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Thomas

Ganwyd 28 Chwefror 1871 yn Caernarfon. Adweinid ef wrth y ffugenw 'Leo', ond 'Sgorfai' wrth ysgrifennu i'r Herald Cymraeg. Efe oedd un o dri sylfaenydd Y Dinesydd Cymreig (1912), ei olygydd hyd 1925, a'i oruchwyliwr hyd 1926. Yr oedd ei ysgrifau, ' Senedd y Pentre ', yn boblogaidd iawn. Symudodd i Flaenau Ffestiniog (1926) yn swyddog i Urdd y Rechabiaid, a dychwelyd i Gaernarfon (1942). Ysgrifennodd golofn, ' Sibrydion yr Awel ', yn Y Gwyliedydd Newydd. Yr oedd yn actor, awdur y ddrama Yr Hen Gojar (1925), heddychwr, dirwestwr, a phregethwr cynorthwyol. Bu farw 7 Ionawr 1944 yng Nghaernarfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.