WILLIAMS, THOMAS RHONDDA (1860 - 1945), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Thomas Rhondda Williams
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1945
Rhiant: Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Bont-faen 19 Mehefin 1860 yn un o dri o feibion Thomas Williams gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a aeth i'r weinidogaeth, dau ohonynt gyda'r Annibynwyr, ac un gyda'r M.C. Derbyniwyd ef i goleg Caerfyrddin fel Thomas Rees Williams yn 1877. Bu'n weinidog ym Methania, Dowlais (1880), Gnoll Road, Castell Nedd (1884), Greenfield, Bradford (1888), a'r Union Chapel, Brighton (1909). Ymddeolodd yn 1931, gan fyw weddill ei oes yn Hove, lle y bu farw 21 Tachwedd 1945.

Cyhoeddodd amryw lyfrau. Ystyrid ef yn bregethwr blaengar, a chefnogai'r 'Ddiwinyddiaeth Newydd' yr oedd cymaint sôn amdani tua throad y ganrif. Yn 1930 traddododd y bregeth i gymanfa Cynghrair y Cenhedloedd yn Genefa. Cyflwynwyd iddo radd D.D. gan seminari ddiwinyddol Chicago. Efe oedd cadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1929.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.