BEDLOE, WILLIAM (1650 - 1680), anturiaethwr a hysbyswr ynglyn â'r Cynllwyn Pabaidd

Enw: William Bedloe
Dyddiad geni: 1650
Dyddiad marw: 1680
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: anturiaethwr a hysbyswr ynglyn â'r Cynllwyn Pabaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: John Martin Cleary

Ganwyd yng Nghas-gwent, sir Fynwy. Bu'n lleidr yn Lloegr ac yna'n dwyllwr ar y cyfandir, ac ar ôl ysbaid mewn carchar yn Valladolid, llwyddodd yn y gamp anodd o ddwyn arian oddi ar Titus Oates. Ym mis Hydref 1678, ar derfyn chwe mis o garchariad yn Newgate, cychwynnodd ar yrfa eithriadol o lwyddiannus fel hysbyswr drwy honni y medrai ddatguddio'r gwir ynglyn â llofruddiad Syr Edmund Berry Godfrey. Bu'n dyst yn erbyn dros ddeuddeg o offeiriaid, a chyhuddodd hyd yn oed y frenhines, Catherine o Braganza, o gynllwynio i lofruddio'r brenin. Bu farw ym Mryste 20 Awst 1680. Honnai un o'i gyfoeswyr fod ganddo fwy o ddychymyg ac o huotledd nag Oates, a'i fod gystal ag ef fel celwyddgi ac anudonwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.