DAVIES (TEULU), Bersham

Yr oedd HUW DAVIES, gof, yn byw yn y Groes-foel, Esclusham, yn yr 17eg ganrif. Fe'i claddwyd ym mynwent Wrecsam 2 Medi 1702. Priodolir iddo ganllaw haearn wych yng nghôr eglwys Wrecsam a llidiard fechan ym mynwent Malpas, sir Gaerlleon. Yr oedd iddo ef a'i wraig Eleanor bedwar mab, ROBERT (bu farw 1748/9), JOHN (bu farw 1755), Huw a Thomas, a chwe merch (Anne, Magdalen, Jane, Sarah, Elinor a Margaret). Daeth Robert a John yn enwog fel gofaint. Dywedir iddynt weithio ar un adeg yn Drayton House, Northampton, dan Jean Tijou, gof Ffrengig enwog a weithiai i William III, ac i Robert Bakewell, gof o Derby. Y mae profion ar glawr mai hwy a luniodd lidiardau Castell y Waun (1719-21), Eglwys Wrecsam (1720), Eglwys S. Pedr, Rhuthun (1727) ac Eglwys Croesoswallt (1738). Priodolir iddynt hefyd gyda sicrwydd lidiardau a sgriniau Plas Coed-llai, yr Wyddgrug; Plas Eaton, sir Gaerlleon; Plas Erddig, Wrecsam; a Phlas Emral, Bangor Iscoed; ac o bosibl lidiardau Castell Coch y Trallwng; Abbey House, Amwythig; eglwys Malpas, sir Gaerlleon; Carden Hall, Malpas; Plas Llan-rhydd, a rhai eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.