Ganwyd 12 Ebrill 1871 yn y Gerlan, Bethesda, mab David Davies, swyddog chwarel, a'i wraig Elizabeth (Williams), Tyddyn Sabel, Bethesda. Cafodd ei addysg yn Ysgol Carneddi, Bethesda, yn Liverpool College ac mewn ysgol breifat yn Lerpwl. Ar ôl chwe blynedd fel clarc mewn swyddfa yswiriant yn Wrecsam a Sheffield fe ymroes i'w gymhwyso ei hun i fod yn gyfreithiwr. Yn yr arholiad terfynol yn 1899 enillodd Anrhydedd y Dosbarth Cyntaf ynghyd â gwobr Cymdeithas Gyfraith Llundain. Ymsefydlodd fel cyfreithiwr yng Nghaernarfon ac yno y bu ei gartref ar hyd ei oes. Etholwyd ef yn aelod o Gyngor Sir Gaernarfon yn 1904 - yn ddiweddarach gwnaed ef yn henadur. Bu'n gyfreithiwr i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ac yn gyfarwyddwr amryw o gwmnïau busnes.
Ym mis Mai 1906 etholwyd ef fel Rhyddfrydwr yn Aelod Seneddol dros ranbarth Eifion o Sir Gaernarfon, yn olynydd i John Bryn Roberts. Cadwodd y sedd hon tan 1918. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n aelod o'r Pwyllgor Adrannol ar Stadau Tiriog (1911), o'r Pwyllgor Adrannol ar y Gyfundrefn Rheithwyr (1911), o Bwyllgor Arbennig Lloyd George ar Bwnc y Tir (1912), o Gynhadledd Llefarydd Tŷ'r Cyffredin ar ddiwygio'r gyfundrefn etholiadol (1916), o Bwyllgor Adrannol yn ymwneud â hawl awdurdodau cyhoeddus i gaffael tir trwy orfodaeth (1917) ac o'r Gynhadledd, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Bryce, ar ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi.
Yn etholiad cyffredinol Rhagfyr 1918 fe gollodd ei sedd, ar ôl ymgyrch chwerw, i ymgeisydd swyddogol y Glymblaid o Ryddfrydwyr a Thorïaid; yr oedd yr ymgeisydd Llafur ar y blaen iddo hefyd. Yna, yn Rhagfyr 1923, etholwyd ef yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros orllewin Sir Ddinbych. Yn 1926 fe'i etholwyd ar banel Cadeirydd Pwyllgorau Tŷ'r Cyffredin. Oherwydd cyflwr ei iechyd ymneilltuodd o'r senedd ym Mai 1929. Yn ystod 1932 bu'n amlwg a phrysur yn y trafodaethau cyfundebol ynghylch llunio mesur seneddol eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n aelod o'r blaid Lafur rhwng 1936 a 1938 ond ymddiswyddodd yn Rhagfyr 1938 oherwydd ei fod yn anghytuno â pholisi tramor y blaid honno. Bu farw 29 Ebrill 1939.
Bu Ellis Davies yn weithiwr dygn a dyfal mewn llawer cylch. Radicaliaeth gadarn ac unplyg ydoedd sail ei weithgarwch gwleidyddol. Yr oedd ganddo feddwl bywiog a chraff, annibyniaeth barn a nerth argyhoeddiad. Darllenai'n helaeth a chynysgaeddwyd ef â chryfder cof. Ysgrifennodd erthyglau ar wleidyddiaeth, gwleidyddion a hanes i newyddiaduron a chylchgronau Cymraeg; dengys y rhain ehangder ei ddiddordebau ac aeddfedrwydd ei fyfyrdodau.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.