Yn ôl nodiadau yn Peniarth MS 128 and Peniarth MS 139i Peniarth MS 139ii Peniarth MS 139iii bu farw 1587. Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond mewn englynion a gyfansoddodd yn 1587 'ar i glaf wely', ceir y llinell 'trigais agos i'r trigen' gweler llawysgrif NLW MS 235D , t. 211). Yn llawysgrif Peniarth 128 rhoddir enw ei fam fel Gwennhwyvar verch Ed. ap M'd, ac enw ei wraig fel Marged verch Ed. ap Rys. Enwir pymtheg o'i blant hefyd. Yn ei ach cyfeirir ato fel Edward ap Roger ap John ap Elis Eutun o Riwabon (gweler llawysgrifau Peniarth MS 74 , Peniarth MS 128 , Peniarth MS 130 , Peniarth MS 139i Peniarth MS 139ii Peniarth MS 139iii , ac eraill). Dywedir mai hwn oedd y John ap Elis o Watstay, sir Ddinbych, a ymladdodd ar faes Bosworth yn 1485 ac y gwelir ei fedd yn eglwys Rhiwabon.
Bu llawysgrif Peniarth MS 34 , Peniarth MS 128 , a B.M. Add. MS. 14967 yn ei feddiant. Gelwir y ddwy lawysgrif olaf wrth ei enw a hwyrach fod rhannau ohonynt yn ei law ef ei hun. Cyfeirir at lawysgrifau yn ei feddiant yn llawysgrifau Peniarth MS 74 , Peniarth MS 132 , Peniarth MS 134 , Peniarth MS 135 , Peniarth MS 136 , and Peniarth MS 139i , Peniarth MS 139ii , Peniarth MS 139iii ..
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.