Ganwyd yng Ngharno, Sir Drefaldwyn, yn 1671. Graddiodd o goleg Brasenose, Rhydychen, yn 1695 (M.A. a D.D. 1714). O 1696 hyd 1700 yr oedd yn gurad yn Wrecsam ond aeth allan i Bennsylvania fel rheithor Christ Church, Philadelphia, yn 1700. Nodwedd fwyaf diddorol ei yrfa yno oedd ei waith cenhadol grymus ar ran yr achos esgobaethol ymhlith Crynwyr Cymreig y wladfa. Dywed cyfoeswr yn 1706 i Evans fedyddio cymaint ag wyth cant o bobl yn Philadelphia. Anfonodd y Gymdeithas er Lledaenu'r Efengyl (S.P.G.) glerigwr ac ysgolfeistri a fedrai'r Gymraeg, allan i'w gynorthwyo (tri ysgolfeistr, e.e., yn 1711). Cynhaliodd wasanaethau anglicanaidd yn ardal Maesyfed mor gynnar â 1701 (mewn tŷ preifat), ac hefyd yn ardal Gwynedd; adeiladwyd eglwysi yn y lleoedd hyn yn ddiweddarach. Bu farw naill ai ym Maryland neu yn Philadelphia, 11 Hydref 1721. Ceir hanes ei waith (yn cynnwys hefyd hanes ei gyd-weithwyr Cymreig), yn seiliedig ar gofnodion y Gymdeithas er lledaenu'r Efengyl, mewn dwy erthygl gan J. A. Thomas yn y Jnl. Hist. Soc. Church in Wales, 1954 a 1955. Dengys David Williams Wales and America, Caerdydd, 1946, 80-1) mai ŵyr Evan Evans, Oliver Evans, dyfeisiwr, oedd y cyntaf i adeiladu ager beiriant yn yr Unol Daleithiau.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.