EVANS, JOSEPH (1832 - 1909), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Joseph Evans
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1909
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Aberhonddu 31 Gorffennaf 1832. Dechreuodd bregethu yn 1855, aeth i Drefeca, ac ordeiniwyd ef yn 1862. Bu'n bugeilio eglwysi Saesneg ei enwad yng Nghaerfyrddin, Tredegar ac Abertawe, ac yn olaf, o 1892 ymlaen, yn Ninbych.

Nid oedd yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn ddiwyd iawn gyda gwaith gweinyddol yr enwad. Bu, am gyfnod ar ôl 1867, yn ystadegydd swyddogol Cyfundeb de Cymru. Bu hefyd yn olygydd y Diary enwadol, cylchgrawn Saesneg yr enwad, The Treasury, a'r gyfrol flynyddol, Y Blwyddiadur (o 1898 hyd y bu farw).

Yn 1907 cyhoeddodd A Biographical Dictionary yn cynnwys bywgraffiadau o weinidogion a phregethwyr yr enwad o'r cychwyn hyd 1850, a'r gwaith hwn, yn bennaf, sydd yn cyfiawnhau cynnwys ei enw yn y bywgraffiadur presennol. Rhaid cydnabod ei fod wedi ei seilio yn gyfan gwbl ar ffynonellau eilradd, a bod rhannau ohono erbyn heddiw yn hen ffasiwn. Er hynny, y mae'n lyfr defnyddiol ac yn destun diolch i'r sawl sy'n astudio hanes y Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw Evans 9 Mai 1909 yn Ninbych, a chladdwyd yno. Bu farw ei weddw yn 1911, a'u merch yn 1919.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.