GRAY, THOMAS (1847 - 1924), peiriannydd mwynawl a hanesydd lleol

Enw: Thomas Gray
Dyddiad geni: 1847
Dyddiad marw: 1924
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd mwynawl a hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas James Hopkins

Ganwyd 22 Medi 1847 yn Usworth, swydd Durham, yn fab i William a Jane Gray. Yn 1848 symudodd y teulu i Dai-bach, Margam, Sir Forgannwg, lle y bu Thomas fyw drwy weddill ei fywyd. Ar ôl cyfnod yn cynorthwyo'i dad, a oedd yn gynrychiolydd mwynawl i'r Mri. Vivian a'u Meibion, bu'n beiriannydd cynghorol i'r un cwmni o ddiwydiannwyr ac yn arolygwr pyllau. Ef hefyd oedd dyfeisydd llusern ddiogel 'Gray' i lowyr (patent rhif 10,503; 12 Mehefin 1900). Ymddiddorai hefyd mewn llywodraeth leol, ym Mudiad y Gwirfoddolwyr, ac, yn bennaf oll, mewn hanes ac archaeoleg leol. Ymhlith ei weithiau cyhoeddedig ceir 'Notes on the granges of Margam Abbey' (a adargraffwyd o'r Journal of the British Archaeological Association, 1903); 'The hermitage of Theodoric and the site of Pendar' (yn Archæologia Cambrensis, 1903); a The Buried City of Kenfig (Llundain, 1909). Bu farw 9 Gorffennaf 1924, a chladdwyd ef yng nghapel anwes Tai-bach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.