Ychydig a wyddys am ei fywyd cynnar, ond credir iddo gael ei eni ym Mrynllwynog, Bryneglwys, yn 1794 neu 1795. Ceir tystiolaeth iddo fod yn byw yng Nghynwyd ger Corwen o 1824 i 1831. Priododd ddwy waith a bu iddo wyth o blant. Hwyrach fod ei wraig gyntaf, a gladdwyd yn Llangar, yn frodor o Gynwyd. Daeth i'r amlwg gyntaf fel bardd mewn eisteddfod a gynhaliwyd gan Gymdeithas Cymreigyddion Corwen ar ddydd Gwyl Dewi, 1824, ac o hynny hyd 1835 bu'n cystadlu'n aml. Yn 1839 cyhoeddwyd cyfrol o'i farddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd. Y mae llawer o gynnwys y gyfrol hon o ansawdd poblogaidd ac heb fod o werth parhaol. Er iddo yn ei ieuenctid fod yn orhoff o ddiod, yn ddiweddarach dylanwadwyd arno gan y diwygwyr dirwestol, ac yn fuan daeth yn un o'u prif arweinwyr. Yn 1837 ysgrifennodd ddau bamffled yn dwyn y teitlau, Ffrwyth y Profiad neu Waedd yn Erbyn Meddwdod ac Araith Beelsebub Tywysog y Fagddu Fawr. Rhaid fyddai i unrhyw hanes y mudiad dirwestol yn y ganrif ddiwethaf ystyried ei gyfraniad. Yr oedd hefyd yn aelod selog o'r Oddfellows. Am beth amser tua 1836 bu Hughes yn mynychu capel y Bedyddwyr yng Nghynwyd, ac y mae'n bosibl iddo'n ddiweddarach gael ei dderbyn fel aelod yng nghapel y Bedyddwyr yn Llansantfraid, lle y claddwyd ef. Yn 1837 adeiladodd argraffwasg bren yn ei gartref, cafodd afael mewn hen deip o eiddo Thomas Thomas, argraffydd o Gaer, a chyda'r rhain argraffodd ychydig o lyfrau a nifer o garolau a baledi.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.